Mae trigolion Caledonia Newydd wedi gwrthod annibyniaeth, gyda 96% o blaid aros o dan reolaeth Ffrainc.

Fe wnaeth pobol o blaid annibyniaeth gynnal boicot o’r refferendwm yn dilyn pryderon ei fod yn cael ei gynnal yng nghanol pandemig ac ymyrraeth Ffrainc yn y broses.

Mae Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi croesawu’r canlyniad fel cadarnhad o rôl Ffrainc yn y rhan honno o’r byd.

Dim ond 42% o’r rhai oedd yn gymwys i bleidleisio oedd wedi bwrw eu pleidlais – llai na hanner y nifer oedd wedi pleidleisio mewn refferendwm tebyg y llynedd, gyda 46.7% o blaid annibyniaeth bryd hynny.

“Heno, Ffrancwyr ydyn ni, ac felly fyddwn ni,” meddai’r Arlywydd Sonia Backes.

“Does dim negodi rhagor.”

“Heno, mae Ffrainc yn fwy hardd oherwydd bod Caledonia Newydd wedi penderfynu aros,” meddai Emmanuel Macron wrth annerch y genedl Ffrengig ar y teledu, gan anwybyddu’r boicot.

Beth nesaf?

Dyma’r trydydd tro ers 2018 i Galedonia Newydd wrthod annibyniaeth. Roedd 43.6% o blaid yn 2018, a 46.7% o blaid y llynedd.

Ond mae’r pandemig wedi codi amheuon am ddoethineb mynd yn annibynnol ar hyn o bryd, gyda Chaledonia Newydd ymhlith yr ardaloedd olaf yn y byd i gael y feirws.

Yn dilyn y canlyniad, mae gan y wladwriaeth, cefnogwyr annibyniaeth a’r rhai sy’n gwrthwynebu annibyniaeth 18 mis i drafod statws newydd Caledonia Newydd a’i sefydliadau yn Ffrainc.

Mae Emmanuel Macron yn awyddus i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd, yr economi, hawliau menywod a’r amgylchedd a newid hinsawdd.

Erbyn diwedd mis Tachwedd, fe fu 271 o farwolaethau ar yr ynys o ganlyniad i Covid-19, ac mae’r ynys yn cynnal blwyddyn o alaru Kanak traddodiadol.

O ganlyniad i hynny, doedd y rhan fwyaf o gefnogwyr annibyniaeth ddim yn teimlo ei bod hi’n briodol cynnal refferendwm ar hyn o bryd, ac roedden nhw wedi bod yn galw am ei ohirio, gyda’r rhai yn erbyn annibyniaeth yn gweld cyfle o fwrw ymlaen â’r refferendwm yng nghanol yr ansicrwydd.

Mae rhai hefyd yn cyhuddo Llywodraeth Ffrainc o ymyrryd drwy gyhoeddi deunyddiau sy’n codi amheuon am fanteision annibyniaeth – dylai’r wladwriaeth fod wedi aros yn niwtral.

Bydd Ffrainc yn parhau i geisio atgyfnerthu ei lle yn y Môr Tawel ar ôl colli cytundeb llongau tanfor gwerth biliynau o ddoleri o ganlyniad i’r cytundeb rhwng Awstralia, yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig. Mae gan Galedonia Newydd ddwy ganolfan filwrol Ffrengig yn y Môr Tawel.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn parhau i gefnogi ymdrechion Caledonia Newydd i ryddhau ei hun o grafangau Ffrainc, ac maen nhw wedi anfon swyddogion annibynnol i fonitro’r refferendwm, ynghyd â chynrychiolwyr o Fforwm Ynysoedd y De.

Ond am y tro, mae Caledonia Newydd yn parhau yn rhan o Ffrainc.