Mae academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe yn dweud mai “rhagrith” Boris Johnson a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig sy’n bwysig i’r cyhoedd.

Daw sylwadau’r darlithydd Hanes Dr Sam Blaxland yn dilyn adroddiadau o dorri rheolau Covid drwy gynnal partïon yn Downing Street yn ystod cyfyngiadau Covid-19 fis Rhagfyr y llynedd.

Daw’r cyhuddiadau ar ôl i luniau ddod i’r fei ohono’n cymryd rhan mewn cwis ar-lein yn Downing Street.

Mae’r llun yn y Sunday Mirror yn ei ddangos o flaen sgrîn yn llyfrgell Rhif 10, ac mae un o’i gydweithwyr yn gwisgo tinsel.

Yn ôl Downing Street, fe gymerodd e ran “yn rhithiol” ac “am gyfnod byr” yn y cwis ar Ragfyr 15 y llynedd, dridiau cyn y parti dadleuol sy’n destun ymchwiliad.

Ar yr adeg dan sylw, roedd y rheolau’n dweud nad oedd hawl gan bobol gael parti na chinio Nadolig, er bod yn eithriadau at ddibenion gwaith, lle mae honno’n weithgaredd sy’n bennaf gymdeithasol ac nad yw’n cael ei ganiatáu yn ôl y rhanbarth mewn ardal benodol.

Adeg y cwis, roedd Llundain yn ardal Haen 2, lle nad oedd modd i aelwydydd gymysgu dan do, ar wahân i swigod cymorth, ac roedd uchafswm o chwech o bobol yn cael cyfarfod yn yr awyr agored.

Yn ôl y Sunday Mirror, roedd staff yn Downing Street yn ymgasglu o amgylch sgriniau cyfrifiaduron, yn trafod cwestiynau’r cwis ac yn yfed alcohol yn ystod y cwis.

Mae lle i gredu bod Boris Johnson wedi bod yn cwisfeistr am un rownd am hyd at chwarter awr.

‘Rhagrith’

“Yr hyn sy’n torri trwodd go iawn o safbwynt y cyhoedd yw’r cyhuddiadau o ragrith, a’r syniad yma y dywedwyd wrthym i beidio â gwneud dim byd y Nadolig diwethaf, tra bod y pobol sy’n creu’r rheolau yn cael partïon,” meddai Dr Sam Blaxland.

“[Mae] un rheol iddyn nhw ac un arall i ni.

“Dyna sy’n destun rhwystredigaeth i bobol ac yn gwneud pobol yn grac.

“Dyna’r rheswm pam eich bod chi wedi gweld rhai o’r polau’n troi yn erbyn Boris Johnson yn ddiweddar, ond nid ar ôl yr holl stwff arall.

“Tra dw i’n meddwl ei fod yn ddifrifol iawn, y brif neges i fi yw, pe na bai’r bobol hyn wir yn credu yn y rheolau, yna pam wnaethon nhw greu’r rheolau yn y lle cyntaf? Mae cwestiwn difrifol enfawr i’w ofyn am hynny.

“Ond i fi, mae’r hyn sydd ar dudalen flaen The Mirror heddiw, sef Boris Johnson yn cynnal cwis dros Zoom gyda dau o bobol eraill, nid dyna’r ergyd farwol.

“Nid fe ar beiriant karaoke mewn ystafell enfawr orlawn yw e – rydyn ni’n clywed adroddiadau yn y papurau fod yna bartïon gorlawn – ond ar hyn o bryd, am wn i, mae Mr Teflon, Boris Johnson… yn credu bod hynny’n iawn.

“Ond dyw e ddim yn iawn, ac mae’n dir peryglus iawn.”

Ffactorau eraill

Mae’n ymddangos nad y partïon hyn yn unig sy’n gyfrifol am y gostyngiad ym mhoblogrwydd Boris Johnson a’r Ceidwadwyr yn y polau.

Mae Covid-19 a Brexit hefyd wedi cyfrannu’n sylweddol at y sefyllfa ac yn ôl Dr Sam Blaxland, roedd Boris Johnson yn “bowld iawn” wrth gyhoeddi ‘Cynllun B’ ar “ddiwrnod gwael iawn yn y newyddion”.

“Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd hynny’n rywbeth roedd e bob amser yn mynd i’w wneud, neu a oedd hynny’n ymateb i geisio tynnu sylw.

“Ta waeth, roedd yn ymateb powld iawn o ystyried bod yr hyn mae e’n ei wneud yn eithaf amhoblogaidd ymhlith ei feinciau cefn.

“Dyma’r tro cyntaf drwy gydol drama Covid i niferoedd sylweddol iawn o’i aelodau seneddol ei hun ddechrau dweud, ‘Dydyn ni ddim yn hoffi beth rydych chi’n ei wneud’.

“Y rheswm pam nad ydyn nhw’n hoffi’r hyn mae e’n ei wneud yw, yn y Blaid Geidwadol – a dw i wedi astudio hanes y blaid hon – fe fu elfen ryddfrydol, criw o bobol sy’n credu y dylai’r Wladwriaeth gadw draw o fywydau pobol, rhyddid yr unigolyn ac ati.

“Mae Covid wedi gweld symudiad enfawr i ffwrdd o’r unigolyn tuag at y wladwriaeth, a gallen ni ddadlau a oedd hynny’n gywir neu beidio, ond fe fu’n offeryn di-fin dros ben gyda chyfnodau clo a phasbortau brechu ac i raddau, mae’n destun syndod mewn gwirionedd nad ydyn ni wedi gweld mwy o aelodau seneddol Ceidwadol yn codi eu lleisiau a dechrau lleisio’u anfodlonrwydd gyda’r hyn mae’r prif weinidog a’r llywodraeth yn ei wneud cyn hyn.”

Cyhuddo Boris Johnson o fod yn ddi-hid ynghylch rheolau Covid yn dilyn parti

Fe ddaeth i’r amlwg fod prif weinidog Prydain wedi cymryd rhan yn y cwis dridiau cyn parti dadleuol sy’n destun ymchwiliad

Boris Johnson: “yr arweinydd gwaethaf posib ar yr adeg waethaf bosib”

Ond Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, ddim yn galw am ei ymddiswyddiad