Mae trigolion Caledonia Newydd wedi pleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

Roedd 56.4% o’r rhai a bleidleisiodd o blaid aros o dan reolaeth Ffrainc, sef sefyllfa’r diriogaeth i’r dwyrain o Awstralia ers 1853.

Dim ond 43.6% oedd am fynd yn wlad annibynnol.

Roedd Emmanuel Macron wedi addo mewn anerchiad ar y teledu y bydd yn cynnal trafodaeth ynghylch y berthynas rhyngddyn nhw yn y dyfodol.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Ffrainc, Edouard Phillipe gyfarfod â swyddogion Caledonia Newydd i drafod y ffordd ymlaen yn dilyn y refferendwm.