Mae saith o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn achos o saethu ger dinas Gothenburg yn Sweden.

Mae 12 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn y gwrthdaro rhwng giangiau yn nhref Molnlycke, lle daeth yr heddlu o hyd i nifer o bobol wedi’u hanafu y tu allan i ganolfan adloniant oedd yn cynnal parti.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd achos y gwrthdaro, ond mae’r heddlu’n trin yr achos fel ymgais i lofruddio.

Mae lle i gredu bod nifer o’r rhai a gafodd eu hanafu’n perthyn i’r Hells Angels.