Mae Boris Johnson yn wynebu gwrthryfel fwyaf ei arweinyddiaeth gyda disgwyl i ddwsinau o Aelodau Seneddol Ceidwadol bleidleisio yn erbyn y cyfyngiadau Covid diweddaraf.

Mae mwy na 70 o Aelodau Seneddol meinciau cefn ei blaid wrthwynebu cynlluniau’r Llywodraeth yn Lloegr i fynd i’r afael a’r amrywiolyn Omicron.

Mae adroddiadau y gallai hyd at 10 cynorthwyydd gweinidogol ymddiswyddo er mwyn gwrthwynebu’r cyfyngiadau, gyda disgwyl hyd at bedair pleidlais gael eu cynnal heno (nos Fawrth, 14 Rhagfyr).

Mae disgwyl i’r mesurau – sy’n cynnwys pasys Covid i gael mynediad i glybiau nos a lleoliadau eraill  – gael eu cymeradwyo yn Nhŷ’r Cyffredin gyda chefnogaeth Llafur, sydd o blaid cyflwyno rheolau llymach.

Serch hynny, mae maint y gwrthwynebiad yn tanlinellu’r pwysau sydd ar Boris Johnson yn dilyn cyfres o honiadau yn erbyn y Llywodraeth yn yr wythnosau diwethaf gan gynnwys partïon Nadolig yn Downing Street y llynedd yn ystod y cyfyngiadau.

Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn wynebu colli sedd Gogledd Sir Amwythig mewn isetholiad ddydd Iau, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio cipio’r sedd.