Mae lefelau diweithdra Cymru yn parhau i ostwng, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Dangosa’r data diweddaraf bod 56,000 o bobol yn ddi-waith rhwng mis Awst a mis Hydref eleni, sydd 9,000 yn llai nag yn ystod y chwarter blaenorol.
Mae cyfradd diweithdra Cymru yn 3.7%, sydd yn is na’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig (4.2%).
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol does yna “ddim arwydd o hyd” fod diwedd y rhaglen ffyrlo ym mis Medi wedi effeithio’r farchnad swyddi.
Rhwng mis Hydref a Thachwedd 2021, fe wnaeth nifer y gweithwyr ar restrau cyflog godi ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac mae’r lefelau yn uwch nag oedden nhw cyn y pandemig.
Cymru welodd y gostyngiad mwyaf mewn segurdod economaidd yn y tri mis yn gorffen Hydref 2021 hefyd, gyda gostyngiad o 1.1%.
Fe wnaeth nifer y swyddi gwag godi i record newydd hefyd, gan gynyddu 184,700 i 1.22 miliwn o swyddi rhwng Medi a Thachwedd.
Mae’r data hefyd yn dangos fod nifer y diswyddiadau yn is na chyn y pandemig, gan fynd yn groes i bryderon y byddai pobol yn colli’u swyddi unwaith y byddai’r rhaglen ffyrlo yn dod i ben.
“Diwedd di-boen”
Dywedodd cyfarwyddwr ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Darren Morgan: “Gyda dim arwyddion o hyd bod diwedd y rhaglen ffyrlo yn taro nifer y swyddi, fe wnaeth nifer y gweithwyr ar restrau cyflog barhau i gynyddu’n gryf ym mis Tachwedd, ond gallai gynnwys pobol sydd wedi cael eu diswyddo’n ddiweddar ond sy’n dal i weithio yn ystod eu hysbysiad.
“Mae’r niferoedd sydd ar restrau cyflog yn uwch na lefelau cyn y pandemig dros yr holl wlad nawr.”