Mae’r marwolaethau wythnosol sy’n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru yn parhau i ostwng.

Yn yr wythnos hyd at 3 Rhagfyr, cafodd 61 o farwolaethau oedd yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy’n ostyngiad o 20.8% o gymharu â’r wythnos flaenorol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 8.5% o’r bobol fuodd farw yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 3 Rhagfyr.

Mae hynny’n ostyngiad o’r 9.9% yr wythnos gynt.

Roedd cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru 10.8% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Ers dechrau’r pandemig, yr wythnos yn gorffen 13 Mawrth 2020, mae 6,708 o farwolaethau ychwanegol wedi’u cofnodi yng Nghymru, o gymharu â’r cyfartaledd dros y bum mlynedd flaenorol.

Er bod nifer y marwolaethau yn gostwng, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhybuddio ei fod yn “poeni’n fawr” am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd dros y bythefnos, dair wythnos nesaf wrth i amrywiolyn Omicron ledaenu.

Mae achosion o’r amrywiolyn i weld yn dyblu pob deuddydd, ac mae hi wedi dod i’r amlwg nad yw dau ddos o frechlynnau Covid yn cynnig digon o amddiffyniad yn ei erbyn.

Yn sgil hynny, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud eu bod nhw’n anelu tuag gynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Rhagfyr, a bod rhaid “paratoi am dwf mawr iawn a chyflym mewn achosion”.

Er nad yw hi’n amlwg eto os yw’r salwch sy’n cael ei achosi gan amrywiolyn Omicron yn waeth na’r salwch sy’n cael ei achosi gan amrywiolion eraill, mae Mark Drakeford wedi dweud ei bod hi’n bosib y bydd ton o’r haint yn “arwain at nifer fawr o bobol yn yr ysbyty” a hynny gan ei fod yn lledaenu mor sydyn.

Roedd y gyfradd Covid yng Nghymru dros y saith niwrnod hyd at ddoe (Dydd Llun, 13 Rhagfyr) yn 500 achos i bob 100,000 person, gyda’r gyfradd ar ei huchaf yn Ynys Môn, Gwynedd a Wrecsam.