Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiad ynglŷn â’r argyfwng Omicron ddydd Mercher (22 Rhagfyr) gan amlinellu pa reolau fydd yn rhaid eu dilyn ar ôl y Nadolig.

Yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid-19 ledled y wlad, mae Senedd Cymru wedi cael ei hadalw i drafod y sefyllfa, ar ôl iddyn nhw ddechrau toriad y gaeaf ddydd Llun (20 Rhagfyr).

Cafodd cyfarfodydd Cabinet eu cynnal drwy gydol dydd Mawrth (21 Rhagfyr), a bydd y Llywodraeth yn gwneud cyhoeddiad toc wedi hanner dydd heddiw.

Yna, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn annerch y Senedd am 13:30, a bydd modd i weinidogion ofyn cwestiynau iddo.

Fe gododd nifer achosion Omicron yng Nghymru o 204 ddoe (dydd Mawrth, 21 Rhagfyr), gan gyrraedd cyfanswm o 640.

Dirwy i weithwyr

Yn y cyfamser, mae mesurau newydd wedi eu cyflwyno, gan gynnwys rhoi dirwy o £60 i weithwyr sy’n mynd i’r gweithle os ydyn nhw’n gallu gweithio gartref.

Bydd teithio i swyddfeydd yn ddiangen felly yn drosedd yn ôl y rheolau newydd, sy’n datgan “na ddylai’r un person adael eu preswylfa, na pharhau o’r lleoliad hwnnw, ar gyfer pwrpas gwaith neu i gymryd rhan mewn gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol,” lle mae’n bosib gwneud hynny o adref.

Dywed Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y dylai’r Llywodraeth gael gwared â’r ddirwy i weithwyr ar unwaith, gan honni y byddai gweithwyr yn gallu cael eu cosbi am gamgymeriadau eu cyflogwyr.

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn beirniadu’r polisi, gan ddweud bod y llywodraeth wedi ei “wthio dan y radar” wrth ei gyhoeddi am hanner nos ddoe (dydd Mawrth, 21 Rhagfyr).

Mesurau eraill

Er hynny, mae caniatâd i bobol Cymru fynychu tafarndai a bwytai dros yr ŵyl, a does dim cyfyngiadau ar nifer yr aelwydydd sy’n gallu cwrdd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi bod clybiau nos yn cau ddydd Llun, 27 Rhagfyr, a bydd mesurau megis ymbellhau cymdeithasol ar waith mewn busnesau a swyddfeydd.

O Ddydd San Steffan ymlaen, bydd rhaid i ddigwyddiadau chwaraeon gael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeedig hefyd.

Mae Mark Drakeford wedi awgrymu dros yr wythnosau diwethaf y gallai cyfyngiadau pellach gael eu gweithredu, gan gynnwys cyfyngu ar nifer yr aelwydydd sy’n gallu cyfarfod.