Yn Lloegr, mae’r cyfnod hunan-ynysu ar gyfer pobl sydd a Covid ond sydd wedi’u brechu’n llawn wedi cael ei gwtogi i wythnos.

Daw hyn wrth i Boris Johnson sicrhau’r cyhoedd na fydd rhagor o gyfyngiadau yn y cyfnod cyn a dros y Nadolig.

O ddydd Mercher, ni fydd y rhai sy’n cael prawf llif unffordd negatif ar ddiwrnod chwech a saith o’r cyfnod hunan-ynysu, ac sydd wedi cael eu brechu, yn gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod.

Fe allai’r newid i’r rheolau helpu miloedd o bobl i weld eu teuluoedd mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Dywedodd y Prif Weinidog bod yr “ansicrwydd parhaus” am ddifrifoldeb yr amrywiolyn Omicron a nifer y cleifion sy’n gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty, yn golygu nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i gyfiawnhau mesurau llymach.

“Y sefyllfa’n parhau’n fregus”

Serch hynny, dywedodd bod y sefyllfa’n parhau’n “hynod o anodd” ac nid yw wedi diystyru mesurau pellach yn fuan ar ôl y Nadolig – “fe wnawn ni beth bynnag sy’n rhaid er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.”

“Beth mae hyn yn ei olygu ydy y bydd pobl yn gallu bwrw mlaen gyda’u cynlluniau ar gyfer y Nadolig ond mae’r sefyllfa’n parhau’n fregus ac mi fyswn i’n annog pawb i fod yn fod yn wyliadwrus, i barhau i ddiogelu eich hunain a’ch anwyliaid, yn enwedig pobl fregus.”

Mae ffigurau gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn dangos bod 1,904 o bobl yn yr ysbyty yn Llundain gyda Covid-19 ar 21 Rhagfyr, y nifer uchaf ers 2 Mawrth a chynnydd o 41% ers yr wythnos flaenorol.

Yng Nghymru mae disgwyl i ragor o gyfyngiadau Covid gael eu cyhoeddi heddiw (Dydd Mercher, 22 Rhagfyr) wrth i Lywodraeth Cymru drafod mesurau ar gyfer busnesau lletygarwch.