Bydd dwy theatr lawfeddygol newydd yn cael eu hadeiladu yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli i geisio lleihau rhestrau aros hirfaith.
Wrth gael eu hadeiladu gyda chyllid o £20m gan Lywodraeth Cymru, bydd gan y cyfleusterau newydd y capasiti i gynnal 24 sesiwn yr wythnos.
Gallai hynny olygu y bydd 4,600 yn rhagor o lawdriniaethau yn cael eu cyflawni bob blwyddyn, sydd am leihau nifer y bobol yn yr ardal sy’n disgwyl am lawdriniaethau ers y pandemig.
Mae’n debyg y bydd cleifion yn rhanbarth de-orllewin Cymru yn cael budd o’r unedau newydd yn Llanelli, yn ogystal â chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Fel rhan o’r gwaith cynllunio, bydd y bwrdd iechyd yn mynd ati i recriwtio staff cymorth, staff theatr a staff clinigol ychwanegol i weithio yn yr ysbyty.
Cyfleusterau newydd
Dywed Lee Davies, un o gyfarwyddwyr gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn dweud bod y datblygiad yn “garreg filltir bwysig” wrth baratoi ar gyfer yr adferiad o’r pandemig.
“Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect,” meddai.
“Yn ychwanegol i’r llawdriniaethau dydd ychwanegol yr ydym yn disgwyl eu cyflawni, bydd yr adeilad modiwlar yn helpu i gynnal ein llwybrau ‘gwyrdd’ ar gyfer gofal wedi’i gynllunio yn sgil yr heriau ehangach i’r system gofal heb ei drefnu.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr gyda’n partneriaid prosiect i ddatblygu’r cynllun dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”
Lleihau rhestrau aros
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai’r cyllid o fudd i bobol sydd wedi bod yn aros am driniaeth lawfeddygol yn yr ardal.
“Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi yn seilwaith y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, i sicrhau ei fod yn ddigon cydnerth a bod ganddo’r capasiti i ofalu am bobl pan fydd ei angen arnyn nhw,” meddai.
“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyhoeddi buddsoddiad o fwy na £170 miliwn mewn gofal wedi’i gynllunio a herio byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau o ran sut y gallan nhw drawsnewid sut y mae eu gwasanaethau yn cael eu darparu a gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael.
“Drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau a thrawsnewid sut rydym yn darparu gofal wedi’i gynllunio y gallwn fynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”