Mae nifer helaeth o fusnesau bach yng Nghymru wedi penderfynu blaenoriaethu dulliau cynaliadwy o weithredu dros gyfnod y Nadolig eleni.

O’r diwydiant trin gwallt i ddylunio, mae ymgais gan sawl busnes bach i leihau eu hôl-troed carbon a chynyddu hyder cwsmeriaid ynddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i fod yn wlad sero-net erbyn 2050 a gyda busnesau bach wrth galon yr economi, maen nhw’n hanfodol wrth gyrraedd y targed hwnnw.

Ledled Cymru, mae cwmnïau bach wedi cymryd camau yn ddiweddar, gan gynnwys lleihau’r defnydd o blastigion mewn cynnyrch a chyfnewid i ddarparwyr ynni adnewyddadwy.

‘Busnesau bach yn poeni’n angerddol am yr amgylchedd’

Dywed Mike Cherry, cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn Busnesau Bach, fod rôl busnesau bach wrth gyrraedd sero-net yn “fwyfwy pwysig”.

“Mae perchnogion busnesau bach yn poeni’n angerddol am yr amgylchedd ac maen nhw’n cydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd y Nadolig hwn a thu hwnt,” meddai.

“Mae ein hadroddiad ar dargedau sero-net yn nodi glasbrint uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer cwmnïau bach, fel y gallan nhw wneud y newidiadau hollbwysig ac angenrheidiol hynny i helpu i bweru adferiad economaidd cynaliadwy sy’n cael ei arwain gan fusnesau bach.”

Eco-salon

Mae perchennog siop trin gwallt yn Nhrefyclo ym Mhowys wedi penderfynu lleihau ei hôl-troed carbon drwy droi at gwmni cyflenwi ynni adnewyddadwy, lleihau gwastraff dwr, a defnyddio cynnyrch nad yw’n cynnwys olew palmwydd.

Dywed Donna Morgan, perchennog Snips Hairdressing, eu bod nhw wedi gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid sydd yn dymuno cael profiad o salon eco-gyfeillgar.

“Mae bod yn wyrddach yn y salon gwallt wedi bod yn bwysig iawn,” meddai.

“Fe wnaethon ni gyflwyno ‘tâl gwyrdd’ o £1 ar ein holl driniaethau, sy’n talu am ailgylchu 100% o’n holl wastraff.

“I fi, mae’n rhaid bod yn wyrdd ac mor eco-gyfeillgar â phosib os ydyn ni am barhau yn y dyfodol.”

‘Rhan hanfodol’

Dywed Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, mai busnesau bach yw “asgwrn cefn yr economi Gymreig.”

“Byddan nhw’n chwarae rhan hanfodol yn ein helpu i gyrraedd sero-net erbyn 2050,” meddai.

“Wrth siarad â busnesau bach ar draws Cymru eleni, rwyf wedi gweld pwysigrwydd blaenoriaethu cynaliadwyedd.

“Mae busnesau bach yn gwneud dewisiadau gwyrddach, sy’n amddiffyn yr amgylchedd ac yn arwain at fuddsoddiad, cwsmeriaid a chyfleoedd newydd ar yr un pryd.

“Rwy’n falch o weld bod llawer o fusnesau bach Cymreig wedi cymryd y camau i leihau eu hallyriadau ac rwy’n annog pawb i gefnogi busnesau sy’n blaenoriaethu cynaliadwyedd y Nadolig hwn.”