Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi cynnig pecyn cymorth gwerth £1bn i helpu busnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau Covid-19 sy’n ymwneud â’r amrywiolyn Omicron.
Bydd y gwledydd datganoledig yn derbyn oddeutu £150m trwy Fformiwla Barnett.
Mae hynny’n golygu y bydd Cymru’n derbyn £50m, Llywodraeth yr Alban yn derbyn £80m, a bydd £25m yn mynd i Ogledd Iwerddon.
Mae cymorth ychwanegol wedi’i gynnig ar gyfer y sectorau lletygarwch a hamdden yn Lloegr, yn dilyn pwysau gan aelodau seneddol, cwmnïau a swydogion y diwydiant.
Mae’r cymorth yn cynnwys grantiau un tro o hyd at £6,000 i fusnesau yn y sectorau sydd wedi’u heffeithio fwyaf, ac mae disgwyl i awdurdodau lleol eu gweinyddu ac y byddan nhw ar gael o fewn wythnosau.
Mae disgwyl i arian trethdalwyr gael ei ddefnyddio hefyd i dalu tâl salwch statudol Covid-19 cwmnïau sydd â llai na 250 o weithwyr.
Gall sefydliadau diwylliannol yn Lloegr gael mynediad at £30m ychwanegol yn ystod misoedd y gaeaf, drwy gronfa adferiad.
Daw hyn wrth i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr barhau i annog pobol i gael eu brechu.
Croesawu’r arian ond beirniadu’r ymateb araf
Mae Kate Nicholls, prif weithredwr UK Hospitality, wedi croesawu’r arian ond mae’n dweud bod “brys gwirioneddol” i sicrhau bod busnesau’n derbyn yr arian.
Ac mae’r Siambr Fasnach yn dweud y bydd busnesau’n “croesawu” yr arian.
Ond yn ôl Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, mae sylw Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn dal ar y gwrthdystiad o du meinciau cefn ei blaid ei hun.
“Mae busnesau a gweithwyr yn bloeddio am eglurder ynghylch beth fydd y mesurau ar y ffordd, wrth i nifer barhau i gael eu bwrw’n galed,” meddai.
“Rhaid i’r Llywodraeth gynnig peth eglurder nawr.”
‘Annigonol’
Mae sector y celfyddydau wedi beirniadu’r pecyn cymorth, gan ddweud ei fod yn “annigonol” ac yn “ymylu ar fod yn sarhaus”.
Bydd sefydliadau’r celfyddydau yn Lloegr yn gallu cael mynediad at £30m ychwanegol yn ystod y gaeaf drwy gronfa adferiad.
Cafodd y gronfa CRF ei sefdylu fis Gorffennaf y llynedd, gyda’r nod o warchod sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth gwledydd Prydain.
Mae grwpiau yn y diwydiannau hynny wedi beirniadu graddau’r cymorth a’r penderfyniad i’w ddosbarthu drwy’r gronfa, gan ddweud bod angen pecyn brys yn lle hynny.
Bu’n rhaid i rai o’r sioeau theatr mwyaf yn y West End, gan gynnwys Lion King a Life of Pi, gael eu canslo oherwydd prinder staff, ac roedd llai o bobol yn mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth byw am gyfnod helaeth cyn i sioeau gael eu canslo.
Mae’r Music Venue Trust yn galw am ragor o eglurder ynghylch y pecyn cymorth, gan ddweud mai eu hargraffiadau cyntaf yw nad yw’r cymorth yn adlewyrchu “realiti” y sefyllfa a’i fod yn “annigonol i ymdrin â graddau’r broblem”.
Maen nhw hefyd yn feirniadol o’r ffaith nad yw lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad wedi’u crybwyll, er bod disgwyl y bydd y sector wedi colli hyd at £22m erbyn diwedd mis Ionawr.
Ac yn ôl cymdeithas diwydiannau nos, mae’r pecyn cymorth “yn rhy fach o lawer”, gan ddweud bod yna “negeseuon cymysg” gan y llywodraeth a bod y cyfyngiadau ychwanegol wedi cael “effaith gatastroffig” ar adloniant byw.
Ond mae theatrau, serch hynny, yn croesawu’r grantiau o £6,000 er bod Equity yn dweud bod y pecyn cymorth yn “enghraifft syfrdanol o esgeulustod y Llywodraeth” a bod eu haelodau’n wynebu “gaeaf o sioeau, archebion a pherfformiadau wedi’u canslo”.
Maen nhw’n dweud nad yw llawer o gynhyrchwyr, gweithleoedd ac artistiaid yn gymwys ar gyfer cymorth o’r gronfa, gan alw am “gynllun brys i warchod pawb sy’n gweithio mewn diwydiannau theatr ac adloniant”.
Maen nhw hefyd yn galw am gynllun ffyrlo newydd ar gyfer perfformwyr a rheolwyr llwyfan, mwy o dâl salwch statudol ac ymestyn cymorth i drethdalwyr hunangyflogedig, yn ogystal â chymorth wedi’i dargedu i bobol yn y diwydiannau creadigol, diddanwyr ac artistiaid amrywiol ar ffurf grantiau newydd.
Yn ôl undeb Bectu, sy’n cynrychioli gweithwyr theatr, bydd y cymorth yn rhy araf yn cyrraedd y diwydiant o’r gronfa, ac mae undeb y cerddorion yn galw am ragor o gefnogaeth i berfformwyr sy’n ddibynnol ar waith dros gyfnod y Nadolig.