Mae’r Llywydd Elin Jones wedi cyhoeddi y bydd Aelodau o’r Senedd yn dychwelyd yn rhithwir yfory (dydd Mercher, Rhagfyr 22) “i ystyried mater o bwysigrwydd cyhoeddus”.

Ysgrifennodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, at y Llywydd yn galw am alw’r Senedd yn ôl er mwyn craffu a phleidleisio ar gyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

“Yn unol â Rheol Sefydlog 12.3A , gallaf gadarnhau fy mod wedi cytuno cynnull y Senedd i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys,” meddai’r Llywydd mewn datganiad byr.

“Fe fydd y Senedd yn cael ei adalw yn rhithwir am 13:30 yfory (Rhagfyr 22ain, 2021). Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys yr agenda, yn dilyn maes o law.”

Roedd y Senedd wedi torri ar gyfer y Nadolig ers ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 20), gan ddychwelyd ar Ionawr 10.

Omicron

Daw hyn wrth i weinidogion ystyried a oes angen mesurau pellach ar ôl y Nadolig i fynd i’r afael â’r amrywiolyn Omicron.

Yr wythnos ddiwethaf, penderfynodd gweinidogion Llywodraeth Cymru gau clybiau nos ac ailgyflwyno pellter cymdeithasol mewn gweithleoedd wedi’r Nadolig, o Ragfyr 27.

Mae chwaraeon dan do hefyd wedi’i atal o ddiwrnod San Steffan ymlaen (Rhagfyr 26).

Daeth hefyd y newyddion y bydd Llywodraeth Cymru’n dirwyo pobol os nad ydyn nhw yn gweithio gartref oni bai bod ganddyn nhw reswm da am beidio gwneud.

Bydd gweithwyr bellach yn derbyn hysbysiad cosb benodedig o £60 a chwmnïau’n cael eu taro â dirwyon o £1,000 bob tro y byddant yn torri’r rheol.

Hyd yma, annog pobol i weithio gartref oedd neges y llywodraeth, ond mae undebau llafur wedi lleisio pryderon, gyda’r GMB yn dweud y byddai’n effeithio ar “y gweithwyr tlotaf”.

Yn ôl y TUC, dydy Llywodraeth Cymru heb drafod y rheoliadau newydd gydag undebau llafur, ac maen nhw’n gobeithio y bydd y rheoliadau’n cael eu dileu.

Galwadau

Daeth galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig i adalw’r Senedd, ac fe ysgrifennodd Andrew RT Davies at Elin Jones gan ddweud ei bod hi’n “hanfodol” fod penderfyniadau’r llywodraeth yn cael eu trafod a bod pleidlais yn y Senedd ymlaen llaw.

Fe bostiodd Andrew RT Davies lun o’i lythyr at y Llywydd ar ei gyfrif Twitter, gan ddweud “Gyda grym mae’n rhaid cael atebolrwydd”.

“Rwy’n galw’r Senedd i ddychwelyd fel y gallwn graffu ar gyfyngiadau Llywodraeth Cymru a phleidleisio arnynt,” meddai.

Mae Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, hefyd wedi lleisio ei chefnogaeth dros adalw aelodau.

 

“Rwy’n cytuno â @AndrewRTDavies. Os yw’r Llywodraeth Lafur yn bwriadu llywodraethu drwy ddatganiadau i’r wasg yn hwyr yn y nos, yna dylai ddisgwyl craffu’n briodol ar ei phenderfyniadau,” meddai ar Twitter.

Bydd gweinidogion yn cyhoeddi ddydd Mercher (Rhagfyr 22) eu cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl y Nadolig.

Mae disgwyl “miloedd” o achosion Omicron yng Nghymru erbyn Gŵyl San Steffan, gyda’r nifer go iawn yn llawer uwch.

Cododd nifer yr achosion Omicron yng Nghymru erbyn dydd Mawrth o 204 i 640.

Cyfyngiadau Covid-19: arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn annog y Llywydd i alw’r Senedd yn ôl

Mae Andrew RT Davies yn dweud ei bod hi’n “hanfodol” fod y Senedd yn cael y cyfle i “ddadlau a phleidleisio” ar gyfyngiadau newydd

 

“Sioc a phryder” ynghylch dirwyon posib i weithwyr nad ydyn nhw’n gweithio o’u cartrefi

Ers ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 20), mae hi’n bosib i weithwyr sy’n gallu gweithio o’u cartrefi ond sy’n gwrthod gwneud hynny dderbyn dirwy o £60