Mae Andrew RT Davies wedi ysgrifennu at y Llywydd yn galw am alw’r Senedd yn ôl er mwyn craffu a phleidleisio ar gyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru.

Mewn llythyr at Elin Jones, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n “hanfodol” fod penderfyniadau’r llywodraeth yn cael eu trafod a bod pleidlais yn y Senedd ymlaen llaw.

Mae’r Senedd wedi torri ar gyfer y Nadolig ers ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 20), gan ddychwelyd ar Ionawr 10.

Daw hyn wrth i weinidogion ystyried a oes angen mesurau pellach ar ôl y Nadolig i fynd i’r afael â’r amrywiolyn Omicron.

Yr wythnos ddiwethaf, penderfynodd gweinidogion Llywodraeth Cymru gau clybiau nos ac ailgyflwyno pellter cymdeithasol mewn gweithleoedd wedi’r Nadolig, o Ragfyr 27.

Mae chwareon dan do hefyd wedi’i atal o ddiwrnod San Steffan ymlaen (Rhagfyr 26).

Fe bostiodd Andrew RT Davies lun o’i lythyr at y Llywydd ar ei gyfrif Twitter, gan ddweud “Gyda grym mae’n rhaid cael atebolrwydd”.

“Rwy’n galw’r Senedd i ddychwelyd fel y gallwn graffu ar gyfyngiadau Llywodraeth Cymru a phleidleisio arnynt,” meddai.

Nododd yn ei lythyr, “Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr gan Lywodraeth Cymru ar gyfyngiadau pellach oherwydd amrywiolyn Omicron, rwy’n eich annog i ailalw’r Senedd o dan Reol Sefydlog 34.9 gan fod hyn yn fater “o bwysigrwydd cyhoeddus brys mewn perthynas â materion iechyd cyhoeddus”.

Mae’n dweud nad yw aelodau wedi derbyn Datganiad Ysgrifenedig gan Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn amlinellu’r newidiadau.

“Fel crediniwr cryf mewn sofraniaeth seneddol a’i haelodau, dydy hi ddim yn deg fod newyddiadurwyr a phlatfformau newyddion yn derbyn datganiadau i’w wasg ynghylch cyfyngiadau Covid pellach, ac eto tra fy mod yn ysgrifennu atoch chi, dydy Aelodau o’r Senedd heb dderbyn Datganiad Ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Iechyd,” meddai.

“Mae’n glir fod gan y Llywodraeth raglen barhaus o newidiadau i gyfyngiadau Covid-19 dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac mae’n hanfodol fod y cyfyngiadau newydd hyn yn cael eu trafod a bod pleidlais ymlaen llaw yn y Senedd, yn enwedig ar effaith hynny ar fywydau pobol yng Nghymru.”

Ffyrlo eto?

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, yn dweud y bydd angen mwy o gyfyngiadau ar Gymru i gadw’r wlad yn ddiogel.

Mae e, ynghyd â Phlaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailgychwyn y cynllun ffyrlo.

Daw hyn wrth i gefnogwyr gael eu gwahardd o bob digwyddiad chwaraeon dan do, awyr agored, proffesiynol a chymunedol yng Nghymru o Ragfyr 26.

Dywed Vaughan Gething y bydd Cronfa Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3m ar gael i gefnogi clybiau a lleoliadau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £60m o gyllid i gefnogi’r diwydiant lletygarwch.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad i’r wasg yfory (dydd Mercher, Rhagfyr 22) yn amlinellu unrhyw gyfyngiadau pellach.

Mae golwg360 wedi gofyn i Swyddfa’r Llywydd a Llywodraeth Cymru am ymateb.