Mae cwest wedi clywed bod parafeddyg ifanc wedi lladd ei hun yn ystod y cyfnod clo cyntaf ar ôl cael ei chywilyddio ar wefan gymdeithasol Facebook am daflu sbwriel.
Cafwyd hyd i Charlotte Cope, oedd yn 23 oed ac yn dod o Gwm Rhondda, yn farw yng nghartre’r teulu fis Ebrill y llynedd.
Roedd hi wedi bod yn brwydro anhwylder bwyta a gorbryder, ond dywedodd ei fam wrth y cwest fod “ganddi bob rheswm i fyw”.
Ddiwrnod yn unig cyn iddi farw, cafodd lluniau ohoni yn ei gwisg eu llwytho i Facebook gan aelod o’r cyhoedd oedd yn honni ei bod hi wedi bod yn taflu sbwriel y tu allan i’w chartref.
Roedd Charlotte Cope ar ei ffordd i’r gwaith ar gyfer shifft nos pan stopiodd hi a sefyll yn ymyl ei char a phentwr o becynnau a gwastraff bwyd.
Dywedodd ei rheolwr llinell yng Ngorsaf Ambiwlansys Gelli wrthi am y lluniau, a chyfaddefodd hi ei bod hi wedi taflu’r sbwriel a’i bod hi’n barod i dalu unrhyw ddirwy am wneud hynny.
Ond erbyn iddi ddihuno y diwrnod canlynol, roedd y neges ar Facebook wedi cael ei rhannu gannoedd o weithiau, yn ôl ei theulu.
Yn ôl ei mam Heidi, fu’n rhoi tystiolaeth yn ei chwest yn Llys Crwner Canol De Cymru, roedd hyn “wedi ei gwthio hi dros y dibyn”.
Gwrandawiad
Clywodd y cwest fod Charlotte Cope yn blentyn hapus oedd yn hoff o chwaraeon, gan ddod yn bencampwraig jiwdo Cymru dair gwaith.
Ond yn 2012, a hithau’n 15 oed, dechreuodd ei brwydr ag anorecsia a threuliodd hi wythnosau yn yr ysbyty yn cael triniaeth.
Aeth hi yn ei blaen i astudio iechyd a gofal cymdeithasol yn y coleg cyn mynd i hyfforddi ym Mhrifysgol Plymouth i fod yn barafeddyg, gan ymuno â’r Gwasanaeth Ambiwlans yn 2018.
Roedd hi’n aelod poblogaidd o’i thîm oedd yn “caru” ei swydd ac achub pobol.
Ond parhaodd ei brwydr iechyd meddwl ac, yn ôl ei theulu, wnaeth hi ddim llwyddo i oresgyn ei salwch meddwl.
Ar Ebrill 13, treuliodd hi rywfaint o amser gyda’i rhieni cyn dychwelyd i’w hystafell wely am oddeutu 1.30yp.
Cafwyd hyd iddi’n farw saith awr yn ddiweddarach y noson honno.
Mewn nodyn ar ei chorff, roedd neges i’w rhieni fynd i edrych ar nodiadau ar ei ffôn symudol, ac roedd y rheiny yn cyfeirio at feddyliau “erchyll” a “chythryblus” yn ei phen, ac roedd hi’n ymddiheuro ac yn dilyn i’w chydweithwyr am yr holl atgofion oedd ganddi.
Cofnododd y crwner reithfarn o hunanladdiad, a chydymdeimlodd â’i theulu.
Ymateb y teulu
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Heidi Cope ei bod hi’n credu y byddai ei merch yn dal yn fyw oni bai am y neges ar Facebook, oedd wedi cyfrannu at ei marwolaeth.
“Roedd hi’n caru ei theulu, ei swydd a’r gampfa,” meddai.
“Roedd hi wedi prynu car yn ddiweddar, wedi bwcio i fynd ar wyliau gyda’i ffrindiau ac wedi cael tocynnau cyngerdd i fynd i weld Pink yn fyw.
“Roedd ganddi bob rheswm i fyw.
“Roedd gan Charlotte orbryder ac roedd hi’n amlwg yn dal yn cael trafferth gyda’i anhwylder bwyta ac fe wnaethon ni ei chefnogi hi gyda hynny – wnaethon ni adeiladu campfa yn y garej, hyd yn oed, fel bod modd iddi barhau i wneud ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo.
“Ond dw i’n credu bod y neges wedi ei gwthio hi dros y dibyn.
“Y diwrnod hwnnw, dihunodd hi a darganfod fod y neges wedi cael ei rhannu gannoedd o weithiau ac roedd y negeseuon oedd yn cael eu hysgrifennu amdani’n ffiaidd ac roedd gormod o embaras ganddi.
“Dw i jyst eisiau i bobol sylweddol lle mor beryglus a chas all Facebook fod, a bod yr hyn maen nhw’n ei bostio yn gallu cael effaith ar rywun a’u teulu.”