Mae angen gwario arian y gyllideb mewn ffordd sy’n targedu mwy nag un broblem ar unwaith, yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd y bydd hi’n ddiddorol gweld a ydy Llywodraeth Cymru yn llwyddo i wario’r arian sydd wedi’i neilltuo ar gyfer gwella cyflwr a chyflenwad tai i fynd i’r afael â phroblemau sy’n wynebu pobol ifanc wrth geisio prynu tŷ.

Mae’n rhaid gwario’r arian mewn ffordd “synhwyrol ac effeithiol” sy’n targedu sawl problem, ac yn gweithio er budd cymdeithas ac er budd yr economi leol, meddai.

Mae ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, a chreu Cymru decach ymhlith rhai o flaenoriaethau’r gyllideb sydd, yn ôl Dr Edward Jones, yn “synhwyrol” yn unol â sefyllfa Cymru ar hyn o bryd.

Er hynny, mae’r pandemig yn achosi ansicrwydd, ac mae’n bosib y bydd rhaid i Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, edrych eto ar yr ystadegau pe bai newidiadau mawr, meddai.

Gwella’r cyflenwad tai

Fe wnaeth yr arian tuag at argyfwng hinsawdd “ddal llygad” Dr Edward Jones, sy’n ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor, wrth edrych ar y gyllideb, meddai.

Fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23, mae £1.8bn am fynd tuag at newid hinsawdd, gyda £1.6bn yn mynd tuag at dai.

“Meddwl oeddwn i, y rheswm pam ’mod i wedi edrych ar y ffigwr yma, rydyn ni i gyd yn gwybod am yr heriau efo climate change, ac wrth gwrs mae angen buddsoddi yn hynny… ond hefyd mae yna broblemau mawr efo tai i bobol ifanc ar draws Cymru yn enwedig yma yn y gogledd, llefydd fel Gwynedd,” meddai Dr Edward Jones wrth golwg360.

“Dw i wirioneddol yn gobeithio y byddan nhw’n gwario’r arian yna mewn ffordd synhwyrol ac effeithiol i gael effaith ar y cyflenwad o dai i bobol ifanc.

“Sgwn i os fydd Llywodraeth Cymru’n gallu gwario’r arian yma mewn ffordd fydd yn caniatáu iddyn nhw attack-io’r ddwy broblem yr un amser?

“Dw i’n meddwl mai dyna’r math o beth rydyn ni ei angen ydi gweld sut allwn ni wario’r arian yma, os ydi o ar climate change, neu iechyd, neu be’ bynnag… ydyn ni’n gallu’i wario fo mewn ffordd effeithiol fel bod o’n targedu mwy nag un broblem.”

Mae cyrff tai cymdeithasol Cymru wedi croesawu’r arian sydd wedi’i neilltuo ar gyfer adeiladu a diogelu tai, gan ddweud bod y gyllideb yn dangos “blaenoriaeth y llywodraeth dros gefnogi tai cymdeithasol, fforddiadwy”.

Hybu’r economi leol

Wrth edrych ar y £1.6bn ar gyfer gwella’r cyflenwad tai, byddai cyflogi pobol leol i wneud y gwaith yn sicrhau bod yr arian yn cael ei wario’n lleol.

Mae creu economi gylchol yn cael ei grybwyll gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u blaenoriaethau ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Ydyn ni’n mynd i allu gwario’r arian fel bod cwmnïau bach yn gallu tendro am y gwaith?” holodd Dr Edward Jones.

“Dw i’n gwybod fod hynny’n her weithiau, nad ydi cwmnïau bach yn teimlo’u bod nhw’n gallu tendro am y gwaith, ond eto mae’n rhaid i’r Llywodraeth wneud yn siŵr bod cwmnïau bach lleol yn cael y cyfle.

“Be’ mae hynna am wneud ydi pwmpio arian mewn i’r economi leol.

“Yr un peth, efo’r bwyd am ddim i bobol ifanc mewn ysgolion, mae’n rhywbeth gwych. Ond eto, os fysa ni’n meddwl am y ffordd rydyn ni’n gwneud y contracts yna, oes modd i’w wneud o fel bod cynnyrch lleol yn gorfod cael ei brynu fel bwyd i blant?

“Eto, be’ mae hynna’n ei wneud ydi gwario arian y llywodraeth yn lleol, a fysa hynna’n cael effaith mawr ar yr economi leol. Mae o’n ryw double win, mewn ffordd.

“Mae’n cael effaith bositif ar gymdeithas, ac eto, mae’n cael effaith bositif ar yr economi leol.

“Mae gweld y ffigurau yma’n wych, ond mae’n rhaid i ni fod yn synhwyrol ac yn effeithiol efo sut mae’r arian yn cael ei wario.”

Gwasgaru twf economaidd

Un peth y byddai Dr Edward Jones wedi hoffi gweld mwy ohono yn y gyllideb yw rhagor o bolisïau i sicrhau bod twf economaidd wedi’i wasgaru dros Gymru gyfan.

“Mi gaethon ni ffigurau twf economaidd ychydig wythnosau’n ôl ar gyfer Cymru, ac ar y cyfan, mae economi Cymru i weld yn gwneud yn weddol iawn o gymharu â lot o lefydd eraill ym Mhrydain,” meddai.

“Y broblem fawr efo Cymru ar hyn o bryd, dydi’r twf economaidd yna ddim wedi cael ei wasgaru ar draws y wlad.

“Mi fyswn i wedi hoffi gweld ychydig mwy o bolisïau i drio taclo’r broblem yna.

“Mae angen i’r llywodraeth edrych pam fod hyn wedi digwydd, be’ rydyn ni angen ydi bod y wlad i gyd yn tyfu efo’i gilydd. Fedrwn ni ddim fforddio anghofio am rannau o’r wlad.

“Mae lot o’r ardaloedd hynny’n llefydd gwledig, ond mewn dinasoedd a threfi mawr, dydyn ni ddim yn gweld twf economaidd yn y fan yna.”

Ansicrwydd

Ar y cyfan, mae’r gyllideb yn un “synhwyrol” o ystyried y sefyllfa bresennol, ond mae’n dweud mai’r her fwyaf yw’r ansicrwydd ynghylch effaith hirdymor y pandemig, meddai.

“Mae hwn yr un math o Nadolig â’r sefyllfa roedden ni ynddo fo’r Nadolig dwytha, efo’r môr o’r Delta variant newydd yn dod deuddeg mis yn ôl, a rŵan rydyn ni efo variant newydd, felly dydyn ni ddim yn rhy siŵr be’ fydd effaith hirdymor y pandemig yma, faint o arian fydd ei angen,” meddai.

“O ystyried y sefyllfa rydyn ni ynddo fo rŵan, dw i’n meddwl ei bod hi’n gyllideb synhwyrol.

“Ond os ydyn ni mewn sefyllfa lle rydyn ni’n gorfod cau’r economi lawr unwaith eto mewn ychydig o wythnosau, neu os oes yna rywbeth yn digwydd eto mewn chwe mis, mi fydd angen i Rebecca Evans ailedrych ar y ffigurau yma.

“Dw i’n meddwl mai hwnna ydi’r her fwyaf, yr ansicrwydd. Dw i o hyd yn dweud hyn am yr economi, un o’r pethau gwaethaf rydyn ni wirioneddol yn eu casáu ydi ansicrwydd, a dyna un peth mae’r pandemig yma’n ei roi i ni.”

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru: “Lle mae’r cynllun economaidd?”

Elfennau i’w croesawu yn y gyllideb, yn ôl yr economegydd Dr John Ball, ond ’does dim cynllun i ddatblygu’r economi oni bai am ambell eithriad’ meddai