Mae Llywodraeth Cymru yn addo gwario £1.8bn ar fuddsoddiad gwyrdd fel rhan o’u cyllideb newydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20).

Bydd y gyllideb ddrafft dair blynedd yn cael ei chyhoeddi gan Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, gan sefydlu prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod dan sylw.

Mae disgwyl i’r blaenoriaethau gynnwys meysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, yr argyfwng hinsawdd, ac adferiad economaidd wedi’r pandemig.

Bydd buddsoddiad gwyrdd o dros £160m mewn refeniw a £1.8bn mewn arian cyfalaf yn cael ei gynnwys fel rhan o’r gyllideb, i’w wario ar goedwig genedlaethol, economi gylchol, datgarboneiddio tai, ynni adnewyddadwy a llifogydd.

Ym mis Ebrill 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan bod argyfwng hinsawdd ac ym mis Hydref eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi eu bwriad i wneud Cymru’n wlad sero net erbyn 2050.

‘Siapio Cymru’

Dywed Rebecca Evans y bydd y gyllideb yn “siapio’r Gymru rydyn ni eisiau ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol” drwy ariannu ffyrdd o “gwtogi allyriadau a bod yn genedl wyrddach”.

“Bydd y gyllideb hon yn gadael Cymru mewn gwell lle i reoli effeithiau’r argyfwng hinsawdd a natur sy’n effeithio cymaint o gymunedau yng Nghymru’n barod, ac a fydd yn effeithio mwy yn y dyfodol,” meddai.

“Ni allwn ni fyth golli golwg ar bwysigrwydd amddiffyn ein planed.”

Bydd sylw’n cael ei roi i’r arian fydd ar un ochr i bolisïau sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, sy’n cynnwys prydau ysgol am ddim.

Yn ôl yr awdurdodau, mae llunio’r gyllideb wedi bod yn heriol yn sgil adolygiad gwariant Trysorlys y Deyrnas Unedig ym mis Hydref, sy’n rhoi setliad “is na’r disgwyl” i Gymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud mai’r setliad o £18bn yw’r pecyn cyllid ariannol mwyaf sydd wedi’i roi i Gymru ers datganoli.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno fod San Steffan yn gwrthod talu am adfer tomenni glo a rhoi cyllid tuag at rwydwaith reilffordd newydd.

Roedd Cymru’n arfer cael £375m y flwyddyn o Gronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, ond dydi’r trefniadau ariannol sydd yn eu lle nhw ddim yn ddigonol, meddai gweinidogion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £4.5m ychwanegol i’r gyllideb – cyfanswm buddsoddiad cyfalaf o £44.4m – er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw a datblygu rhaglen adfer.

‘Newid bywydau’

Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd y gyllideb yn “newid bywydau pobol er gwell” drwy dalu am gynlluniau megis rhoi prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal iechyd am ddim i blant dwy oed.

Fodd bynnag, dywed Llyr Gruffydd, yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, “y gellid gwneud llawer mwy” pe na bai cyllideb Cymru’n cael ei phennu gan Lywodraeth San Steffan sydd “allan ohoni” o ran anghenion Cymru.

“Diolch i Blaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn gweld Cymru hyd yn oed yn decach, yn wyrddach, ac yn gryfach fyth trwy addewidion polisi uchelgeisiol,” meddai Llyr Gruffydd.

“O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed a llawer mwy, bydd yr ymrwymiadau a sicrhawyd gan Plaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i rai o’n cartrefi tlotaf a bydd yn newid bywydau pobl er gwell ledled Cymru.

“Mewn gwirionedd wrth gwrs, gellid gwneud llawer mwy pe na bai maint a graddfa cyllideb Cymru yn cael ei phennu gan Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig yn San Steffan sydd allan ohoni pan ddaw at anghenion ein cenedl. Pe bai’r Gyllideb wedi cynyddu yn unol â maint economi’r Deyrnas Unedig er 2010, byddai Cymru yn well ei byd o oddeutu £3bn.

“Yn lle hynny, mae disgwyl i ni droedio’r bil ar gyfer gwariant anferth prosiect rheilffordd HS2, y bwriedir ei adeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac er anfantais i’n heconomi.

“Mae toriad creulon y Prif Weinidog i Gredyd Cynhwysol yn cymryd mwy na £280m oddi ar economïau lleol ac mae 275,000 o deuluoedd Cymru yn wynebu llithro mewn i dlodi.

“Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau dros ragor o bwerau ariannol i Gymru fel bod polisi economaidd yn cael ei yrru gan yr hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, nid yr hyn sy’n gweithio orau i Boris Johnson a’i Gabinet o filiwnyddion.”

Bydd y gyllideb yn cael ei chyhoeddi heddiw, ond bydd un o bwyllgorau’r Senedd yn craffu arni ddydd Mercher (Rhagfyr 22) cyn bod Rebecca Evans yn gwneud datganiad llafar ar Ionawr 11.

Amcanion cytundeb cydweithio’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru’n “fforddiadwy” – Canolfan Llywodraethiant Cymru

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae penderfyniadau gwariant llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi hwb i ragolygon cyllidol Cymru