Mae’r Almaen wedi tynhau’r cyfyngiadau ar deithwyr o wledydd Prydain yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o’r amrywiolyn Omicron.

Ers 11 o’r gloch neithiwr (nos Sul, Rhagfyr 19), mae cludwyr megis cwmnïau awyrennau wedi’u gwahardd rhag cludo teithwyr o wledydd Prydain i’r Almaen.

Dim ond trigolion a phreswyliaid yr Almaen, eu partneriaid a’u plant, yn ogystal â theithwyr transit, fydd yn cael teithio i’r wlad o wledydd Prydain.

Bydd angen i unrhyw un sy’n teithio yno gael prawf PCR negyddol, ac mae gofyn iddyn nhw fynd i gwarantîn am 14 diwrnod, waeth beth yw eu statws brechu.

Y lefel pryder uchaf

Cafodd y cyfyngiadau newydd eu cyhoeddi ddydd Sadwrn (Rhagfyr 18), ar ôl i’r Deyrnas Unedig gael ei dynodi’n ardal o bryder yn sgil Omicron.

Gallai’r cyfyngiadau para tan Ionawr 3.

Mae Ffrainc wedi cyflwyno cyfyngiadau tebyg, ac fe ddaethon nhw i rym am 11 o’r gloch nos Wener (Rhagfyr 17).

Fe wnaeth y rhuthr ymhlith pobol yn teithio i Ffrainc er mwyn osgoi’r gwaharddiad arwain at sgil effeithiau i yrwyr lorïau oedd yn cludo nwyddau, gan gynnwys ciwiau hir ar yr M20 yng Nghaint a ger mynedfa twnnel y Sianel.

Roedd ciwiau hir wedi bod ym mhorthladd Dover cyn hynny.

Yn ôl y cyfyngiadau ar gyfer Ffrainc, mae angen “rheswm da” ar bobol i fynd i mewn i Ffrainc, a dydy’r rheiny ddim yn cynnwys rhesymau hamdden na busnes.

Mae gyrwyr lorïau nwyddau, gweithwyr trafnidiaeth a thrigolion a dinasyddion Ffrengig wedi’u heithrio o’r rheolau newydd.