Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw’n falch o weld canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn “gosod disgwyliadau clir” i ysgolion ddod yn rhai Cymraeg, ond nad oes cefnogaeth na chymhelliant iddyn nhw wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl darpariaeth o ran y Gymraeg.
Wrth gyhoeddi’r canllawiau, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, ei fod am weld pob dysgwr oed ysgol yn cael y cyfle i ddod yn ddinasyddion dwyieithog.
Dysgu Cymraeg yn yr ysgol yw’r ffordd o orau o gyflawni hynny, meddai, felly mae e am weld mwy o ysgolion yn symud ar hyd y continwwm iaith trwy gynyddu faint o Gymraeg sy’n cael ei chynnig yn yr ysgol.
Mae’r newid yn cynnwys lleihau nifer y categorïau sy’n diffinio’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion, i dri chategori ar gyfer ysgolion cynradd a thri ar gyfer uwchradd sef Saesneg (Categori 1), Dwy iaith (Categori 2) a Chymraeg (Categori 3 a 3P).
Bydd canran y ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei chyfrifo ar sail yr amser sy’n cael ei ddyrannu i’w defnyddio a’i dysgu.
Un o’r egwyddorion craidd eraill yn y trefniadau yw na ddylai ysgolion gynnig llai o ddarpariaeth Gymraeg, o fewn y cwricwlwm nag mewn gweithgareddau allgyrsiol, yn y dyfodol nag a wnaed yn y gorffennol.
‘Sylfeini cryf’
Dywedodd Jeremy Miles AoS ei fod am “weld pob ysgol ac awdurdod lleol yn symud ar hyd y continwwm iaith gan roi gwell cyfle i ddysgwyr adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg”.
“Mae athrawon a phartneriaid eraill yn gweithio ar fframwaith Cymraeg ar hyn o bryd,” meddai.
“Gyda deunyddiau ategol a dysgu proffesiynol, bydd y fframwaith hwn yn cefnogi dysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
“Mae hyn yn bwysig i rieni a gofalwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am y math o leoliad ysgol yr hoffent i’w plentyn ei fynychu. Mae hwn yn bolisi cenedlaethol sy’n darparu atebion lleol.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ac rwyf am sicrhau bod ein dysgwyr nid yn unig yn gallu siarad yr iaith, ond eu bod yn hapus i’w defnyddio ym mhob cyd-destun.
“Rwy’n hyderus y bydd y canllaw hwn yn ein helpu i osod sylfeini cryf a pharatoi’r ffordd i gyflawni hyn.”
‘Dim cefnogaeth na chymhelliant’
Ond wrth ymateb, dywed Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, mai’r hyn sydd ei angen yw Deddf Addysg Gymraeg a fyddai’n gosod nod hirdymor i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb.
“Rydyn ni’n falch o weld bod y canllawiau yn gosod disgwyliadau clir ar ysgolion i symud ar hyd y continwwm at ddod yn ysgolion Cymraeg ond does dim cefnogaeth na chymhelliant i Awdurdodau Lleol wneud hynny chwaith,” meddai.
“Yn yr un modd, mae disgwyl i ysgolion gynllunio’u gweithlu er mwyn gallu darparu addysg Gymraeg, ond does dim cymorth na chefnogaeth ar gyfer hynny.
“Er bod categori Cymraeg penodedig fyddai’n darparu 100% o weithgareddau 90% Cymraeg o ddisgyblion, mae ail gategori Ysgol Gymraeg lle byddai o leiaf 60% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau ysgol yn Gymraeg.
“Mae hyn yn rhoi camargraff, a does dim cymhelliant i ysgolion gynnig mwy o ddarpariaeth Gymraeg i ddisgyblion.
“Mae’r Llywodraeth wedi addasu’r canllawiau er mwyn creu is-gategori ar gyfer ysgolion penodedig Cymraeg.
“Roedd hynny yn dilyn ymgynghoriad felly rydyn ni’n falch eu bod nhw wedi gwrando. Ond mae’n amlwg mai’r hyn sydd ei angen, yn hytrach na thocio’r ymylon, yw Deddf Addysg Gymraeg fyddai’n rhoi mesurau mewn lle i ddarparu addysg a gweithgareddau Cymraeg i bob disgybl, a gwneud y Gymraeg yn gyfrwng normal ar draws y system addysg.”