Bydd ymrwymiadau yn y gyllideb yn “newid bywydau pobol er gwell” yn ôl Llyr Gruffydd, yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi eu cyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf brynhawn heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20), ac mae disgwyl y bydd arian yn cael ei neilltuo ar gyfer darparu cinio ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal iechyd am ddim i bob plentyn dwy oed.
Roedd hynny ymhlith y blaenoriaethau oedd yn cael eu nodi yn y Cytundeb Cydweithio, ac mae Llyr Gruffydd yn credu bydd gweithredu ar y rheiny yn sicrhau cefnogaeth i “rai o’r aelwydydd tlotaf.”
‘Yn decach, yn wyrddach, ac yn gryfach’
Yn ogystal, bydd £1.8bn yn cael ei neilltuo ar gyfer buddsoddiad gwyrdd fel rhan o’r gyllideb newydd.
“Diolch i Blaid Cymru, bydd y gyllideb hon yn gweld Cymru hyd yn oed yn decach, yn wyrddach, ac yn gryfach fyth trwy addewidion polisi uchelgeisiol,” medd Llyr Gruffydd, llefarydd cyllid Plaid Cymru.
“O brydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd i ymestyn gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed a llawer mwy, bydd yr ymrwymiadau a sicrhawyd gan Blaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Llywodraeth Cymru yn sicrhau cefnogaeth drawsnewidiol i rai o’n cartrefi tlotaf a bydd yn newid bywydau pobl er gwell ledled Cymru.”
Grymoedd ariannol
Er ei fod yn gefnogol o’r cyllid sydd wedi ei gynnig dan yr amgylchiadau, mae Llyr Gruffydd yn teimlo y byddai’n llawer mwy llewyrchus pe bai mwy o rymoedd ariannol gan Gymru.
“Mewn gwirionedd wrth gwrs, gellid gwneud llawer mwy pe na bai maint a graddfa cyllideb Cymru yn cael ei phennu gan Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig yn San Steffan sydd allan ohoni pan ddaw at anghenion ein cenedl,” meddai.
“Pe bai’r Gyllideb wedi cynyddu yn unol â maint economi’r Deyrnas Unedig er 2010, byddai Cymru yn well ei byd o oddeutu £3bn.
“Yn lle hynny, mae disgwyl i ni [dalu am] wariant anferth prosiect rheilffordd HS2, y bwriedir ei adeiladu’n gyfan gwbl y tu allan i Gymru ac er anfantais i’n heconomi.
“Mae toriad creulon y Prif Weinidog i Gredyd Cynhwysol yn cymryd mwy na £280m oddi ar economïau lleol ac mae 275,000 o deuluoedd Cymru yn wynebu llithro mewn i dlodi.
“Dyna pam y bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau dros ragor o bwerau ariannol i Gymru fel bod polisi economaidd yn cael ei yrru gan yr hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus, nid yr hyn sy’n gweithio orau i Boris Johnson a’i Gabinet o filiwnyddion.”
Ar y llaw arall, dywed Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai’r setliad o £18bn yw’r pecyn cyllid ariannol mwyaf sydd wedi’i roi i Gymru ers datganoli.