Mae Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru wedi cefnogi galwadau am gwest llawn i drychineb Glofa’r Gleision yn 2011, pan fu farw pedwar glöwr.
Ar ôl siarad â theuluoedd rhai o’r glowyr, mae Sioned Williams wedi ysgrifennu at Grwner Abertawe a Castell-nedd Port Talbot yn gofyn am gwest llawn i’r achos.
Ar Fedi 15, 2011 yn dilyn ffrwydrad ym mhwll glo’r Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, llifodd miloedd o alwyni o ddŵr i’r twnnel lle’r oedd saith glöwr yn gweithio.
Er bod tri o’r saith glöwr wedi gallu dianc yn ddiogel, roedd pedwar yn gaeth dan ddaear, a bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau achub.
Yn dilyn ymchwiliad, cafwyd cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn rheolwr y safle, Malcolm Fyfield, ac MNS Mining Ltd, ond fe’u cafwyd yn ddieuog o bob cyhuddiad.
‘Llawer o gwestiynau’
Ar ôl i Sioned Williams siarad â rhai o deuluoedd y glowyr a gafodd eu lladd, a rhai o’r goroeswyr, daeth i’r amlwg eu bod nhw am weld cwest llawn.
“Mae wedi bod dros ddeng mlynedd ers i ddŵr lifo i lofa’r Gleision, pan gollodd pedwar dyn eu bywydau mewn modd mor drasig,” meddai Sioned Williams.
“Deng mlynedd o sioc, deng mlynedd o golled, o alar ac o lawer o gwestiynau – ond ychydig iawn o atebion.
“Mae’n hanfodol bod cwest cyflawn yn cael ei gynnal ar gyfer y gymuned ac, yn bwysicaf oll, y teuluoedd a gollodd anwyliaid, fel y gallant o’r diwedd gael atebion i’r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw ac yn y dyddiau a arweiniodd at y trychineb.”
Mae Sioned Williams wedi cysylltu â swyddfa’r Crwner yn ei annog i gwblhau’r cwest cyhoeddus llawn a gafodd ei agor a’i ohirio yn 2013 yn wreiddiol.
“Ar ôl siarad â theuluoedd y dynion a gollodd eu bywydau, clywais am y cwestiynau sy’n dal ganddyn nhw a’u galwad am gwest,” meddai Sioned Williams yn ei llythyr at Colin Phillips, Crwner Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
“Dw i’n deall bod cwest wedi’i agor a’i gau, ond na chafodd cwest llawn ei gynnal.
“Cefais wybod hefyd fod ymchwiliad annibynnol diweddar wedi adnabod nifer o faterion sy’n achosi pryder ynghylch y ffordd oedd y safle’n cael ei rhedeg – materion sydd heb gael eu hystyried yn iawn.
“Gan gefnogi eu galwadau, dw i’n ysgrifennu er mwyn gwneud cais am gynnal cwest llawn er mwyn archwilio’r amgylchiadau’n ymwneud â’r digwyddiad trasig hwn yn llawn.”
‘Rhy hir o lawer i aros am atebion’
“Ar y cyd â Sioned Williams, rwyf wedi cyfarfod â pherthnasau dioddefwyr y drasiedi erchyll hon ac rwy’n cefnogi eu galwadau am gwest cyhoeddus,” meddai’r Cynghorydd Alun Llewelyn, cynghorydd sir dros Ystalyfera ac Arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot.
“Mae blynyddoedd wedi mynd heibio heb unrhyw esboniad am lawer o’r digwyddiadau o amgylch y diwrnod hwnnw.
“Mae deng mlynedd yn rhy hir o lawer i aros am atebion.”
Ym mis Medi eleni, ddeng mlynedd wedi’r trychineb, cafodd seremoni arbennig ei chynnal yng Nghanolfan Gymuned Rhos, lle ymgasglodd teuluoedd y glowyr i aros am newyddion ddegawd yn ôl.
Cafodd mainc a dram coffa eu dadorchuddio i gofio’r pedwar dyn a gollodd eu bywydau, a’r trychineb.