Cofeb i'r glowyr ger pwll glo'r Gleision
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod rheolwr ym mhwll glo’r Gleision yng Nghwm Tawe yn gwybod bod dŵr yn y rhan o’r pwll wnaethon nhw ffrwydro cyn y ddamwain yn 2011.
Dyna sydd yn cael ei ddweud mewn adroddiad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a oedd yn ymchwilio i’r ddamwain ble cafodd pedwar o lowyr eu lladd.
Fe gawson nhw eu lladd wedi i ddŵr lifo i mewn i’r rhan ble roedden nhw’n gweithio ar ôl iddyn nhw gynnal ffrwydrad er mwyn gallu cloddio rhan newydd o’r pwll.
‘Rheolwyr yn gwybod’
Y llynedd cafwyd rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o hunanladdiad yn ymwneud â’r ddamwain.
Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, yn y ddamwain bedair blynedd yn ôl ar ôl i’r dŵr foddi’r rhan o’r pwll glo ble roedden nhw’n gweithio.
Yn ôl adroddiad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch cafwyd hyd i dystiolaeth o ddrilio oedd yn awgrymu bod y glowyr wedi bod yn cynnal profion i weld pa mor drwchus oedd y glo ac oes oedd dŵr yn bresennol.
Roedd cynllun yn swyddfa rheolwr y pwll glo hefyd yn dangos yn glir bod dŵr tanddaearol yn y rhan o’r pwll ble digwyddodd y ddamwain.
Ac fe ddywedodd un glöwr, a fu’n gweithio yn y rhan honno o’r pwll ddiwrnod cyn y ddamwain, wrth ymchwilwyr bod dŵr yn llifo o’r twll drilio “fel tap yn rhedeg ar ei hanner”.
Yng nghasgliad eu hadroddiad fe nododd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch bod rheolau mwyngloddio eisoes wedi cael eu diweddaru yn 2014 i geisio cryfhau’r canllawiau ynglŷn ag asesu risg mewn amgylchiadau tebyg yn y dyfodol.