Old Bailey
Mae’r newyddiadurwr olaf i’w gael ei gael yn euog o hacio ffonau symudol yn achos papur newydd y News Of The World wedi cael dedfryd ohiriedig heddiw.
Yn yr Old Bailey cafodd Jules Stenson ddedfryd o bedwar mis o garchar wedi’i ohirio am 12 mis.
Roedd Jules Stenson yn olygydd nodwedd i’r tabloid, a ddaeth yn adnabyddus am nifer o sgŵps yn ystod y 2000au.
Fe yw’r wythfed person i gael ei ddedfrydu dros achosion o hacio ffonau yn y papur newydd rhwng 1 Ionawr 2003 a 26 Ionawr 2007.
Ym mis Rhagfyr y llynedd fe blediodd Jules Stenson, o Battersea yn ne orllewin Llundain, yn euog i’r cyhuddiadau o hacio ffonau.
Yn 2011 fe fu’n rhaid i’r papur newydd, oedd yn cael ei gyhoeddi’n wythnosol ar ddydd Sul, gael ei gau lawr yn dilyn yr achosion.