Y ddau fws wedi'r gwrthdrawiad
Mae dau o bobl wedi cael anafiadau sy’n bygwth bywyd a thri wedi’u hanafu’n ddifrifol mewn damwain rhwng dau fws yn Brighton.

Dywedodd Heddlu Sussex bod tua wyth o bobl eraill wedi cael man anafiadau yn y gwrthdrawiad yng nghanol dinas Brighton am 9.22 y bore ma.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Heol y Frenhines ac mae’r heddlu’n ei drin fel “digwyddiad mawr.”