Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff wrth iddyn nhw chwilio am fachgen 14 oed aeth ar goll ger afon yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Fe aeth Cameron Gosling i drafferthion yn yr Afon Wear ym Mharc Witton, Swydd Durham, prynhawn ddoe.

Bu timau achub arbenigol yn treulio’r nos yn chwilio amdano yn yr afon, sydd yn boblogaidd ymysg plant yn nofio pan mae’r tywydd yn boeth.

Trafferthion yn y gorffennol

Yn 2013 bu dau berson ifanc arall – Tonibeth Purvis, 15, a Chloe Fowler, 14 – farw yn yr afon ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio yn ystod tywydd poeth.

Heddiw fe gadarnhaodd Heddlu Durham eu bod wedi dod o hyd i gorff Cameron Gosling.

“Mae corff wedi cael ei ganfod yn yr Afon Wear gan swyddogion oedd yn edrych am fachgen 14 oed,” meddai llefarydd.

“Daeth deifwyr yr heddlu o hyd i’r corff yn yr afon yn Paradise Park, Bishop Auckland, yn agos i’r man lle aeth Cameron Gosling, 14 oed, i drafferthion.”