Bydd Laura Kuenssberg, golygydd gwleidyddol y BBC, yn rhoi’r gorau i’r swydd adeg y Pasg y flwyddyn nesaf.

Ar ôl saith mlynedd yn y swydd, bydd Kuenssberg yn symud ymlaen i ‘rôl ohebu a chyflwyno uwch’, yn ôl y darlledwr.

Roedd adroddiadau gan The Guardian ym mis Hydref fod y newyddiadurwraig mewn trafodaethau i ymuno â rhaglen newyddion foreol Today ar BBC Radio 4.

Dydy’r BBC heb enwi ei holynydd i’r swydd, ond mae Jon Sopel, cyn-olygydd Gogledd America, yn un o’r enwau sy’n cael eu crybwyll.

Mae Laura Kuenssberg wedi bod yn ffigwr dadleuol yn ystod ei chyfnod yn olygydd gwleidyddol – cyfnod sydd wedi cynnwys refferendwm Brexit a dau etholiad cyffredinol.

Mae hi wedi wynebu cyhuddiadau o ragfarn gan sawl un ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn ystod ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn dilyn pryderon dros ei diogelwch, roedd yn rhaid iddi gael ei gwarchod wrth fynychu cynadleddau pleidiau yn ddiweddar.

‘Amser i symud ymlaen’

Fe gyhoeddodd Laura Kuenssberg heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20) ei bod hi’n camu o’r neilltu.

“Dw i wedi bod yn lwcus i wneud y swydd ohebu orau yn y busnes, gyda’r cydweithwyr gorau byddai rhywun yn gallu dymuno eu cael,” meddai.

“Mae wedi bod yn anhygoel i lenwi’r gadair yn ystod cyfnod o newid mawr, ac i drio gwneud synnwyr o hynny i’r gwylwyr, gwrandawyr a darllenwyr ar-lein.

“Byddaf yn gweld eisiau’r ddrama ddyddiol, a’r tîm gwych yn San Steffan, yn fawr. Ond ar ôl saith blynedd a beth sy’n teimlo fel degawdau o benawdau, mae’n amser i symud ymlaen.”

‘Edrych ymlaen at ei phennod nesaf’

Wedi’r cyhoeddiad, fe roddodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, ei ddymuniadau gorau i Kuenssberg.

“Mae Laura wedi bod yn olygydd gwleidyddol arbennig i’r BBC drwy gydol y cyfnod mwyaf cythryblus yn wleidyddol mewn cof,” meddai.

“Mae ei sylwebaeth dreiddgar, cwestiynu caled a’i mewnwelediad craff wedi tywys ein cynulleidfaoedd drwy’r saith blynedd diwethaf.

“Mae hi’n gyfwelydd penigamp a chyflwynydd atyniadol, a dw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu ei chadw hi ar ein sgriniau a’n tonfeddi.

“Dw i’n edrych ymlaen at ei phennod nesaf.”