Bydd £1.3bn o gyllid uniongyrchol ychwanegol yn cael ei neilltuo i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru dros y tair blynedd nesaf, fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru.
Y nod gyda’r cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yw sicrhau gofal iechyd sy’n effeithiol, o ansawdd uchel, ac yn gynaliadwy, a’i helpu i barhau i ymateb i’r pandemig ac adfer wedyn.
Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2022-23 heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20) “i gefnogi Cymru heddiw ac i lunio Cymru yfory”.
Yn ogystal, bydd cymorth ar gael i fusnesau, gyda’r rheiny yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael 50% o ryddhad o’u hardrethi annomestig yn 2022-23.
Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo arian hefyd i helpu i wneud tomenni glo’n ddiogel ac i dalu am eu hadfer, eu cyweirio a’u hailbwrpasu, gyda £4.5m yn ychwanegol a buddsoddiad cyfalaf o £44.4m.
Y gyllideb
Bydd awdurdodau lleol yn derbyn bron i £0.75bn o arian ychwanegol i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill.
Yn 2022-23, bydd mwy na £250m yn cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180m fel rhan o setliad llywodraeth leol, £45m o fuddsoddi uniongyrchol, a £50m ar gyfer cyfalaf gofal cymdeithasol ychwanegol.
Bydd £160m o refeniw ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer buddsoddiad gwyrdd, a bydd £18bn yn cael ei neilltuo fel buddsoddiad cyfalaf.
Bydd hynny’n cynnwys cyllid i blannu coedwig genedlaethol, ac ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru tuag at fioamrywiaeth, teithio llesol, yr economi gylchol, ynni adnewyddadwy, llifogydd a datgarboneiddio tai.
Caiff £1.6bn o gyfalaf yn cael ei fuddsoddi i ddarparu tai o ansawdd da, gan gynnwys £1bn ar gyfer tai cymdeithasol a £375m ar gyfer diogelwch adeiladau.
Mae’n fwriad i’r gyllideb fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol drwy £320m ychwanegol i barhau â’r rhaglen tymor hir o ddiwygio dysgu ac addysg.
Bydd hyn yn cynnwys £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal plant a’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar; £40m ar gyfer Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf; £90m ar gyfer prydau ysgol am ddim; £64.5m ar gyfer rhaglenni ehangach i ddiwygio ysgolion a’r cwricwlwm; a £63.5m yn y ddarpariaeth ôl-16 oed.
Ar ben hynny, mae £900m o gyfalaf yn cael ei neilltuo ar gyfer gwella ansawdd adeiladau ysgolion trwy raglen ysgolion yr 21ain ganrif.
Fe fydd £61m ychwanegol yn mynd tuag at y Gwarant i Bobol Ifanc a chymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, prentisiaethau, ac i ehangu’r Cyfrifon Dysgu Personol.
Y Gymraeg a’r Celfyddydau
Bydd mwy o arian yn cael ei neilltuo ar gyfer y Gymraeg yn rhan o’r gyllideb hefyd.
Mae cefnogaeth ariannol ychwanegol am gael ei rhoi ar gyfer addysg Gymraeg, yn ogystal â’r celfyddydau yng Nghymru.
Fe gyhoeddodd y Llywodraeth y bydd £45 miliwn yn cael ei fuddsoddi i wella addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Yn ogystal, mae £8 miliwn am gael ei ddarparu ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol dros y dair blynedd nesaf, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr ifanc drwy gyfrwng yr iaith.
Mae £4 miliwn wedi cael ei addo ar gyfer ardaloedd yng ngorllewin Cymru er mwyn hybu defnydd o’r Gymraeg yn rhan o’r economi, ac i wella’r economi mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf.
Bydd £14 miliwn ar gael yn gefnogaeth i sectorau celfyddydol a diwylliant hefyd, gan gynnwys £1 miliwn i “gryfhau newyddion Cymru a chau’r diffyg democrataidd”.
‘Cyd-destun ariannol anodd’
“Bydd y gyllideb hon yn cefnogi Cymru heddiw ac yn llunio Cymru yfory,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid.
“Bydd yn cefnogi’n gwasanaethau cyhoeddus i fod yn gryfach, yn helpu Cymru ymhellach i lawr y llwybr i fod yn wlad sero net ac yn creu gwlad decach gyda chydraddoldeb yn sylfaen iddi.
“Rydyn ni’n dal i weithredu mewn cyd-destun ariannol anodd, gyda’n cyllideb bron £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â’r economi ers 2010-11.
“Mewn termau real, bu llai na hanner y cant o gynnydd yn y cyllid refeniw rhwng 2022-23 a 2024-25, ac mae cyllid cyfalaf yn cwympo o ran termau arian parod bob blwyddyn yng nghyfnod yr Adolygiad Gwariant – 11% yn is mewn termau real yn 2024-25 nag yn y flwyddyn gyfredol.
“Ni wnaeth Adolygiad Gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflawni dros Gymru a darperir y gyllideb hon yng nghyd-destun hynny.
“Er bod dewisiadau anodd i’w gwneud yn y dyfodol, rydym wedi gallu darparu cyllid fydd yn caniatáu i Gymru godi i wynebu’r heriau o’n blaenau â’i thraed wedi’u gwreiddio yn y gwerthoedd unigryw Cymreig o gyfiawnder amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
“Lle nad oedd gan yr Adolygiad Gwariant unrhyw beth i’w ddweud am argyfyngau’r hinsawdd a natur, rydyn ni’n gweithredu.
“Lle nad oedd yr Adolygiad Gwariant yn cynnig help i wneud tomenni glo’n ddiogel, rydyn ni’n camu i’r adwy.
“A lle nad oedd yr Adolygiad Gwariant yn ceisio unioni’r anghydraddoldeb rhwng y rhanbarthau, rydyn ni’n buddsoddi ym mhob rhan o Gymru ac yn buddsoddi i daclo anghydraddoldeb mewn ffordd ystyrlon.
“Dyma gyllideb i roi hwb i gychwyn gwireddu ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a dewr ac rwy’n falch o gael ei chyhoeddi a gosod y sylfeini ar gyfer ein hadferiad ac i’n symud i fod yn Gymru gryfach, decach a gwyrddach.”
‘Mwy na digon o arfau’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion y bydd rhai busnesau yn cael rhyddhad o 50% oddi ar eu hardrethi busnes y flwyddyn nesaf, a gafodd ei gyhoeddi fel rhan o’r gyllideb.
Wrth ymateb i’r Gyllideb, dywedodd Peter Fox AoS, llefarydd cyllid y blaid, ei fod yn siomedig nad oes arian ar gyfer y canolfannau llawfeddygol rhanbarthol nac ar gyfer gwella isadeiledd ffyrdd Cymru.
“Yn sgil y record hon o gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, mae llyfr Llafur o esgusodion ym Mae Caerdydd wedi darfod, a byddan nhw’n cael eu barnu ar y ffordd maen nhw’n cyflwyno’r gyllideb hon, a’i chanlyniadau,” meddai.
“Mae ganddyn nhw fwy na digon o arfau yn eu meddiant i ailsbarduno economi Cymru, mynd i’r afael â’r argyfwng yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a chreu dyfodol gwell i’n plant.
“Ni fedran nhw feio San Steffan, Brexit, y tywydd nac unrhyw esgus arall a allai fod mewn ffasiwn ar y pryd, mwyach.
“Gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llafur sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg Cymru ers dyddiau Tony Blair, ond ar y cyd â’u cynorthwywyr cenedlaetholgar, maen nhw wedi methu’n gyson â gwella ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus dros y ddau ddegawd diwethaf.
“Mae’n rhaid i oedi’r dirywiad hwnnw a chreu economi gryfach i Gymru gyda swyddi sy’n talu’n dda a gwasanaethau cyhoeddus gwell fod yn flaenoriaeth i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd, yn hytrach na’u hobsesiwn afiach presennol gyda phwerau a’r cyfansoddiad.”
- Mae’r gyllideb yn cynnwys arian i gefnogi’r ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gallwch ddarllen sylwadau Plaid Cymru am hynny, isod.