Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno Cyllideb sy’n blaenoriaethu adferiad economaidd a gwasanaethau cyhoeddus y wlad.

Mae Peter Fox, llefarydd cyllid y blaid, yn galw am gyfres o fesurau i fynd i’r afael â phroblemau sydd “wedi’u gwreiddio’n ddwfn” yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac i gefnogi busnesau wrth i Gymru barhau i wynebu heriau economaidd yn sgil y pandemig Covid-19.

Ymhlith blaenoriaethau’r Ceidwadwyr Cymreig mae sefydlu cronfa i gefnogi busnesau yn sgil yr amrywiolyn Omicron, cyflwyno canolfannau llawfeddygol i fynd i’r afael â rhestrau aros hir, ac arian ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i gadw treth y cyngor yn isel.

Maen nhw hefyd am weld estyniad i’r toriad cyfraddau busnes i helpu busnesau wedi’r pandemig, mwy o fuddsoddiad mewn disgyblion er mwyn mynd i’r afael â than-gyllido, a chynnydd yn yr arian sydd ar gael i wella’r ffyrdd ac isadeiledd sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

‘Dim mwy o wleidyddion a newidiadau cyfansoddiadol’

“Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am redeg Cymru ers dyddiau Tony Blair, ond ynghyd â’u cynorthwywyr bach cenedlaetholgar, maen nhw wedi methu dro ar ôl tro â gwella ein heconomi a’n gwasanaethau cymdeithasol,” meddai Peter Fox.

“Wrth i ni barhau i wynebu heriau yn sgil y pandemig, mae’n rhaid i weinidogion Llafur ddefnyddio’r Gyllideb hon i flaenoriaethu adferiad Cymru ac i fynd i’r afael â phwysau cymdeithasol yn hytrach na phrosiectau sosialaidd a chenedlaetholgar gwastraffus megis newid cyfansoddiadol a mwy o wleidyddion.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld cyflwyno cronfa iawndal ar frys i fusnesau sydd yn cael eu bwrw gan ganslo yn sgil Omicron, yn ogystal ag ymestyn y toriad trethi busnes i helpu cwmnïau ar eu ffordd tuag at adferiad, gan ddiogelu swyddi ledled Cymru.

“Allwn ni ddim chwaith fforddio anwybyddu problemau difrifol eraill iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol, ac mae hwn yn amser cyfleus i weinidogion wrando ar ein galwadau hir am gyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol fel y gallwn leddfu’r pwysau ar ysbytai a dechrau mynd i’r afael â rhestrau aros enfawr y Gwasanaeth Iechyd Llafur.

“Mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi rhoi swm o arian sy’n record i weinidogion Llafur gael gweithredu ar ran cymunedau Cymreig – £2.5bn ychwanegol y flwyddyn ar gyfartaledd, ar ben eu harian blynyddol o £15.9bn – ac mae’n hanfodol fod hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu cynghorau i gadw biliau’n isel ar gyfer teuluoedd mewn gwaith, yn gwneud yn iawn am y tan-gyllido cronig mewn ysgolion, ac yn sicrhau bod ein hisadeiledd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

“Rhaid buddsoddi’r record hon o Gyllideb mewn ffordd ddoeth i weithredu ar sail blaenoriaethau pobol mewn gwaith, ac wrth ganolbwyntio â golau laser ar greu swyddi sy’n talu’n well a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.”