Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn dyfalu mai ’dwblyn’ fydd y gair nesaf i gael ei ychwanegu at yr iaith Gymraeg.

Roedd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yng Ngheredigion yn ymateb i erthygl ar wefan Newyddion S4C yn trafod bathu’r gair ‘hwblyn’ ar gyfer y trydydd dos o frechlyn Covid-19.

Dr Eilir Hughes, y meddyg teulu o Wynedd, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r gair ‘hwblyn’, ac yntau wedi bod yn arwain yr ymdrechion i frechu pobol yr ardal o’i feddygfa, Tŷ Doctor yn Nefyn.

Yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd yr wythnos hon, dywedodd Elin Jones mai ‘hwblyn’ fyddai’r gair diweddaraf i gael ei ychwanegu at y geiriadur Cymraeg.

“Dwn i ddim beth yw’r gair hynaf yn yr iaith Gymraeg, ond licsen i fentro mai’r gair ieuengaf y Gymraeg yw hwblyn,” meddai.

“Gair newydd am booster a gafodd ei fathu ar Twitter yn yr wythnosau diwethaf gan Dr Eilir Hughes.

“Gair a fydd yn ymddangos yn y geiriadur yn y dyfodol agos rwy’n siŵr.”

Mae nifer o wleidyddion Plaid Cymru wedi mabwysiadu’r gair erbyn hyn, ond brechlyn neu bigiad atgyfnerthu sy’n cael ei ddefnyddio’n swyddogol gan y Llywodraeth.

Serch hynny, mae Elin Jones wedi mynd â’ drafodaeth gam ymhellach wrth drafod y posibiliadau pe bai angen pedwerydd dos yn y dyfodol – ac wedi cael sêl bendith Dr Eilir Hughes ei hun.