Mae nifer y bobol fu farw yn dilyn teiffŵn yn y Ffilipinas wedi codi y tu hwnt i 140 ar ôl i dalaith gyhoeddi 72 yn rhagor o farwolaethau.
Cafodd ffigwr Bohol ei ychwanegu at y ffigwr gwreiddiol ar gyfer y teiffŵn cryfaf eleni.
Mae lle i gredu mai’r ffigwr ar hyn o bryd yw 146, ond mae deg yn rhagor o bobol ar goll a 13 wedi cael anafiadau.
Dim ond 33 o 48 o feiri’r ynysoedd sydd wedi cyhoeddi ffigurau hyd yn hyn ac felly, mae’n debygol iawn y bydd y ffigwr yn codi’n sylweddol eto.
Mae lle i gredu bod y teiffŵn hefyd wedi achosi sawl tirlithriad a llifogydd mewn nifer o drefi.
Mae llywodraethwr Bohol yn galw ar feiri’r dalaith i gyflwyno mesurau brys i sicrhau pecynnau bwyd a dŵr i nifer fawr o bobol.
Mae sicrhau cyflenwad dŵr yn broblem fawr ar hyn o bryd, gan fod gorsafoedd wedi colli eu cyflenwadau trydan.
Yn Bohol, mae oddeutu 780,000 o bobol wedi cael eu heffeithio, gyda rhyw 300,000 ohonyn nhw’n gorfod gadael eu cartrefi.
Mae’r heddlu a’r asiantaeth sy’n ymateb i drychinebau wedi cyhoeddi o leiaf 64 o farwolaethau, ac mae swyddogion ar ynysoedd Dinagat wedi cyhoeddi deg arall.
Mae’r Arlywydd Rodrigo Duterte wedi addo 2bn pesos (£30m) o gymhorthdal yn dilyn y trychineb, ac fe fydd e’n ymweld â Bohol.
Fe gyrhaeddodd y teiffŵn gyflymdra o 121m.y.a. i 168m.y.a. ar ei anterth, gyda thros 227 o ddinasoedd a threfi’n colli eu cyflenwadau trydan.
Roedd difrod hefyd i dri maes awyr, ac mae dau ohonyn nhw ynghau o hyd.