Mae adroddiadau bod Jamie Wallis, Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru pan nad oedd mewn cyflwr i wneud hynny, yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg.

Mae’r cyhuddiad o yrru pan nad yw rhywun mewn cyflwr i wneud hynny’n golygu eu bod nhw’n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Yn ôl BBC Cymru, fe darodd i mewn i bostyn yn Llanbleddian am 1.10yb ddydd Sul, Tachwedd 28.

Yn ôl yr heddlu, mae dyn 37 oed o’r Bont-faen wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad, ac mae Jamie Wallis wedi cadarnhau iddo fod mewn gwrthdrawiad a’i fod yn “helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad”.

Mae e wedi gwrthod gwneud sylw tra bod yr ymchwiliad ar y gweill, ond dywed yr heddlu na chafodd neb anafiadau.

Mae e wedi gohirio cymhorthfa yn ei etholaeth dros y penwythnos, ac mae neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud iddo brofi’n bositif am Covid-19.