Mae dyn yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol iddo gael ei atal rhag mynd i mewn i glwb nos yng Nghaerdydd “am siarad Cymraeg”.
Yn ôl Neil Roberts ar Twitter, fe fydd e’n mynd â’i gwynion am glwb nos Pulse at Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl helynt yn ystod noson allan nos Wener (Rhagfyr 17).
Mewn cyfres o negeseuon, mae’n dweud bod bownsar “wedi gwrthod mynediad” iddo fe a’i ffrind “am siarad iaith arall”.
“Nid yn unig mae’n anghywir i wrthod mynediad ar y sail hwnnw, mae hefyd yn anghyfreithlon gwrthod rhywun yr hawl i siarad yr iaith Gymraeg yng Nghymru,” meddai.
“Dw i hefyd wedi fy siomi’n fawr gan ymddygiad yr heddlu oedd nid yn unig yn gwrthod holi’r lleoliad neu’r unigolyn am dorri ein hawliau, ond fe wnaethon nhw ddweud wrthym hefyd nad oedd modd i ni gael manylion bathodyn y bownsar o ganlyniad i GDPR.
“Beth yw diben y bathodyn yn yr achos hwnnw?
“Mae’n wir fy mod i a fy ffrind wedi meddwi, ac roeddem yn emosiynol, ond mae wedi achosi cryn ypset fod ein hawliau cyfreithiol wedi’u torri a’u defnyddio yn ein herbyn, ac nad oedd neb wedi cymryd y torri hwnnw o ddifri.
“Mae unrhyw un sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru yn haeddu bod yr hawliau yn cael eu gwarchod.
“Mae’n deg dweud na fyddwn ni’n gadael i’r peth fynd ac rydym eisiau ymchwiliad go iawn.
“Roedd yr heddlu’n cytuno ei fod yn torri [hawliau] ond wnaethon nhw ddim byd.
“Bydda i’n siarad â Chomisiynydd y Gymraeg ynghylch beth allwn ni ei wneud nesaf.”
Mae golwg360 wedi gofyn i glwb nos Pulse am ymateb.