Mae’r Arglwydd Richard Rogers, dylunydd adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, wedi marw’n 88 oed.

Fe hefyd oedd dylunydd y Millennium Dome ac adeilad Lloyd’s yn Llundain, Canolfan Pompidou yn Paris a Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg.

Cafodd ei eni yn yr Eidal yn 1933, cyn symud i Loegr yn fachgen ifanc.

Aeth yn ei flaen i astudio yn Ysgol y Gymdeithas Bensaernïol yn Llundain ac yna ym Mhrifysgol Yale, lle enillodd e radd Meistr.

Fe enillodd e’r Fedal Aur Frenhinol a Gwobr Pritzker am ddylunio’r Senedd a Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Cafodd ei ganmol wrth ennill Gwobr Pritzker am “chwyldroi amgueddfeydd, gan drawsnewid yr hyn oedd unwaith yn gofebion elit yn llefydd cymdeithasol a diwylliannol boblogaidd sydd yn rhan o wead calon y ddinas”.

Derbyniodd e Ryddfraint Llundain yn 2014 am ei gyfraniad i’r byd pensaernïol.

Roedd ei gwmni hefyd yn gyfrifol am ddylunio adeilad Channel 4.

Mae’n gadael Ruth, ei wraig oedd yn gyd-sylfaenydd y River Cafe yn Llundain, ei feibion Ab, Ben, Roo a Zad, ei frawd Peter a 13 o wyrion.