Mae Sikh wedi cael ei ladd yn y Deml Aur yn y Punjab ar ôl cyflawni’r hyn sy’n cael ei disgrifio fel gweithred anghrefyddol.

Yn ôl adroddiadau, fe ddringodd y dyn, oed yn ei 20au cynnar, dros reiliau’r Deml Aur yn ninas Amritsar a cheisio gafael mewn cleddyf oedd yn cael ei gadw ger y llyfr sanctaidd, y Guru Granth Sahib.

Fe ddigwyddodd yn ystod gwasanaeth gweddi dyddiol.

Mae deunydd camerâu yn dangos pobol y tu fewn i’r deml yn ceisio atal y dyn, ac fe gafodd ei ladd wedyn.

Mae’r heddlu’n archwilio deunydd camerâu cylch-cyfyng am dystiolaeth.

Mae prif weinidog talaith y Punjab wedi beirniadu’r digwyddiad “anffodus a mileinig”.