Mae’r Arglwydd Frost, y Gweinidog Brexit ac un o gynghreiriaid penna’r prif weinidog Boris Johnson, wedi camu o’r neilltu.

Mae lle i gredu ei fod e wedi bwriadu gadael ei swydd yn ffurfiol fis nesaf ond mewn llythyr neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 18), dywedodd ei fod e wedi cael “siom” fod y cynlluniau wedi dod i’r amlwg yn gynt na’r disgwyl a’i fod yn ymddiswyddo ar unwaith.

Dywedodd fod “Brexit bellach yn ddiogel” ond mai’r “her i’r Llywodraeth nawr yw gweithredu ar y cyfleoedd mae’n eu cynnig”.

Ond mynegodd ei “bryderon am y cyfeiriad teithio presennol” ac ynghylch y ffaith nad yw’r cyfyngiadau Covid-19 wedi gallu cael eu gwyrdroi yn ôl y disgwyl.

Dywedodd hefyd ei fod e am weld y Deyrnas Unedig yn cyflwyno lefel isel o drethi.

Ymateb

Wrth ymateb i’r ymddiswyddiad, dywedodd Boris Johnson fod yn “flin iawn” ganddo glywed am yr ymddiswyddiad.

Cafodd ei ymadawiad ei ddisgrifio fel “trothwy” gan Andrew Bridgen, Ceidwadwr sydd o blaid Brexit sy’n dweud fod ei ymddiswyddiad “yn ergyd ddinistriol” i’r blaid ac i Boris Johnson, ac y gallai roi mwy o bwysau ar y prif weinidog.

Mae Syr Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP, wedi mynegi pryderon am y ffin ym Môr Iwerddon oedd yn rhan mor allweddol ac amlwg o’r trafodaethau Brexit.

Mae’r Blaid Lafur wedi ymateb trwy ddweud bod y Llywodraeth a’r Blaid Geidwadol “mewn anhrefn”.

Beth mae ymadawiad yr Arglwydd Frost yn ei olygu i Boris Johnson?

Mae ymadawiad yr Arglwydd Frost wedi cael ei ddisgrifiol fel eiliad fawr i’r Blaid Geidwadol a’r Llywodraeth, gyda nifer o ffigurau dylanwadol a blaenllaw ar y meinciau cefn yn sôn am yr angen i’r blaid symud i gyfeiriad newydd a gwahanol.

Daw’r ymadawiad hefyd ar ddiwedd wythnos fawr i Boris Johnson, ac yntau’n wynebu dyfodol ansicr yn sgil y sgandalau niferus yn Downing Street, gan gynnwys y partïon yn ystod y cyfyngiadau clo, ac yn ymwneud ag ymddiswyddiad Owen Paterson am dorri rheolau lobïo.

Roedd disgwyl yr ymadawiad fis nesaf ar ôl i’r Arglwydd Frost gael ei ddarbwyllo na allai’r Llywodraeth ymdopi ag ymadawiad yng nghanol sawl peth arall, ond fe ddaw ar ôl i’r ymadawiad ddod yn gyhoeddus.

Y gred erbyn hyn yw fod y Ceidwadwyr yn dechrau ystyried ai Boris Johnson yw’r dyn i’w harwain i mewn i’r flwyddyn newydd, a fydd ymadawiad un o’i gynghreiriaid pennaf ddim yn gymorth iddo yn hynny o beth. Y dewis syml nawr, yn ôl rhai, yw newid arweinydd neu newid plaid lywodraeth yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae rhai ffigurau amlwg o fewn y Blaid Geidwadol eisoes yn sôn am “flinder” ac “embaras” o fewn y Llywodraeth a bod angen “ffordd newydd ymlaen”. Yn ôl erail, mae gan Boris Johnson uchafswm o 12 mis i’w brofi ei hun cyn y bydd yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder – mae angen llythyr gan fwy na 15% o’i aelodau seneddol er mwyn i hynny ddigwydd.

Mae’r meinciau cefn eisoes wedi cael eu bradychu tros faterion maniffesto fel pensiynau, diweddaru rheilffyrdd gogledd Lloegr a chynnydd mewn yswiriant gwladol i dalu am ddiwygiadau gofal cymdeithasol.

Ac wrth gwrs, roedd helynt ynghylch pwy oedd wedi talu i adnewyddu fflat Boris Johnson.

Ond fe wynebodd un o’i heriau mwyaf dros yr wythnosau diwethaf wrth i nifer sylweddol o Geidwadwyr wrthdystio mewn pleidlais dros basys Covid.

Ei brawf mawr nesaf yw sut y bydd yn ymateb i berygl cynyddol yr amrywiolyn Omicron – gallai mwy o gyfyngiadau gadw mwy o bobol yn ddiogel, efallai, ond fe allai olygu’r diwedd i Boris Johnson ac, o bosib, i’w Lywodraeth Geidwadol.