Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Lily Sullivan, 18, ym Mhenfro.

Cafwyd hyd i’w chorff fore ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 17).

Mae’r heddlu’n archwilio’r safle, ac yn dweud y bydd mwy o blismyn nag arfer yn yr ardal wrth i’r ymchwiliad barhau.

Maen nhw’n awyddus i siarad ag unrhyw un oedd wedi gweld Lily, oedd yn gwisgo’r dillad mae hi’n eu gwisgo yn y llun, pan aeth hi allan gyda’i ffrindiau rhwng 7.30 nos Iau (Rhagfyr 16) a 2 o’r gloch fore ddoe.

Mae’r heddlu hefyd yn awyddus i siarad â thri o bobol a gafodd eu gweld yn cerdded ci o faint canolig oedd yn gwisgo côt ger barbwr Zero’s am oddeutu 2.40 fore ddoe

Mae dyn 31 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa am 36 awr arall i gael ei holi ar ôl i’r heddlu gael estyniad gan ynadon.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.