Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwrthod cais i godi 44 llety gwyliau ar hen safle Clwb Rygbi y Rhyl.

Ond Llywodraeth Cymru fydd yn cael y gair olaf ar y mater, er i gynghorwyr bleidleisio o 13 i 4 o blaid gwrthod y cynnig, oedd hefyd yn cynnwys cynlluniau i droi adeilad y clwb yn dderbynfa.

Roedd y cynnig hefyd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer bwyty, caffi, siop a swyddfa llogi beiciau yn Rhuddlan.

Roedd disgwyl i’r cais gael ei drafod ym mis Ebrill eleni, ond cafodd ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw geisio atebion gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych.

Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston fod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad swyddogion cynllunio, a chafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Peter Scott, ar ôl iddi ddweud y gallai’r datblygiad roi gwely i 228 o bobol ond y byddai’n amhriodol ei osod mewn ardal agored yng nghefn gwlad.

‘Graddfa fawr’

“Mae o ar raddfa eithaf mawr ac mae’n gynnig eithaf trefol mewn ardal yng nghefn gwlad, a dw i’n meddwl mai dyna oedd y brif broblem,” meddai’r Cynghorydd Christine Marston.

“Roedd o’n mynd yn groes i bolisi cynllunio, nid yn unig polisi cynllunio Sir Ddinbych ond polisi cynllunio Cymru hefyd.

“Yn ei hanfod, y broblem oedd polisi datblygu lleol PSE12, nad yw’n caniatáu safleoedd carafanau statig mewn llefydd agored yng nghefn gwlad, a dw i’n gwybod y bydd pobol yn dweud ‘cabanau ydi’r rhain’ ond mae cabanau’n cwympo i mewn i’r un math o feini prawf.

“Dw i’n falch fod y pwyllgor wedi’i wrthod o.

“Mi fyddai hefyd wedi bod yn ddatblygiad ar dir gradd 3A amaethyddol.

“Ddylech chi ddim datblygu ar dir 3A. Mae’n adnodd sydd â therfyn iddo. Dylid ei warchod o.

“Y rheswm olaf am ei wrthod o ydi pan ydych chi’n datblygu safle fel parc gwyliau, byddai Llywodraeth Cymru eisiau i chi gefnogi a galluogi llwybrau teithio actif, felly mae hynny’n golygu annog pobol i gerdded a defnyddio trafnidiaeth actif.

“Roedd hwn mewn ardal wledig iawn efo llwybrau cerdded.

“Doedd dim ffordd y byddai pobol yn gallu cyrraedd y gwersyll heb neidio yn y car, ac mae hynny’n mynd yn groes i argymhellion Llywodraeth Cymru hefyd, felly dw i’n meddwl bod rhesymau da iawn pam iddo gael ei wrthod, gan gadw nid yn unig at ein polisi cynllunio ein hunain ond polisi cynllunio Llywodraeth Cymru hefyd.”

‘Cynllun o safon uchel’

Wrth siarad o blaid y cynllun, dywedodd William Ward o North Wales Construction Ltd fod y “cynllun wedi’i ddylunio i fod o’r safon uchaf”.

“Byddai’r cynllun hwn, o fod yn geidwadol, yn creu mwy na 30 o swyddi llawn amser pan fyddai’n agor, yn ogystal â chreu llawer o swyddi lleol yn ystod y cyfnod adeiladu, o ddefnyddio busnesau lleol i gefnogi cyflenwyr lleol,” meddai.

“Mae dwyn y cynllun hwn gerbron y pwyllgor wedi bod yn broses hir a heriol.

“Fe gymerodd lawer o bobol sy’n fwy cymwys o lawer na mi mewn sawl maes gryn dipyn o amser ac ymdrech, a gobeithio y bydd yr adroddiad yn lleddfu unrhyw bryderon a all fod gan bobol.

“Er enghraifft, mae ein hecolegwyr wedi datblygu cynllun ecoleg ar gyfer y safle a fydd yn cynyddu bioamrywiaeth ac ecoleg y safle.”

Bydd arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol.