Fe fu cynnydd “sydyn a phryderus” yn y defnydd o fanciau bwyd cyn y Nadolig, wrth i bobol deimlo effeithiau colli’r cynnydd o £20 yn y Credyd Cynhwysol a phrisiau bwyd yn codi, yn ôl banc bwyd yn Abertawe.
Mae dros 90% o fanciau bwyd annibynnol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi gweld cynnydd yn y galw am y gwasanaeth dros y chwe wythnos ddiwethaf, yn ôl ffigurau’r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol (Ifan).
Mae pôl gan Neighbourly, un o bartneriaid Aldi wrth iddyn nhw roddi bwyd dros ben, yn dangos bod 70% o fanciau bwyd, elusennau ac achosion cymunedol yn poeni nad yw eu cyflenwadau bwyd yn ddigonol i gefnogi pobol dros gyfnod y Nadolig.
Roedd 79% o’r mwy na 600 o grwpiau yn dweud eu bod nhw’n derbyn llai o roddion erbyn hyn ac, ar gyfartaledd, maen nhw’n disgwyl i’r galw gynyddu o 40% dros y tri mis nesaf.
Mae’r rhwydwaith yn rhybuddio y gallai’r sefyllfa achosi “risg i iechyd y cyhoedd”, ac yn ôl aelodau’r rhwydwaith, mae’r cynnydd wedi’i achosi gan ddileu’r cynnydd o £20 yn y Credyd Cynhwysol, costau bwyd a phrisiau ynni’n cynyddu, yn ogystal â diwedd y cynllun saib swyddi neu ffyrlo.
Mae oddeutu traean y darparwyr hefyd yn dweud bod llai o fwyd dros ben ar gael neu fod rhoddion wedi gostwng.
Mae’r 68 o ddarparwyr yn y rhwydwaith yn rhedeg mwy na 120 o fanciau bwyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac maen nhw wedi cynnig gwasanaeth i ddegau o filoedd o bobol dros y chwe wythnos ddiwethaf.
Partneriaeth Pontarddulais
Yn ôl Catherine Evans, sy’n rhedeg Partneriaeth Pontarddulais yn ardal Abertawe, mae’r galw am fanciau bwyd wedi mwy na dyblu ers i’r cynnydd o £20 yn y Credyd Cynhwysol ddod i ben ym mis Hydref.
Fe roddodd 472 o barseli bwyd ym mis Medi, 746 ym mis Hydref a 1,103 fis diwethaf.
Mae’r galw’n codi o hyd y mis hwn, ac fe wnaethon nhw roi dros 100 o barseli un diwrnod yr wythnos ddiwethaf.
“Trwy gydol misoedd y gaeaf ac yn enwedig pan fo gyda ni niferoedd Covid yn codi eto, galla i jyst weld cynnydd pellach,” meddai Catherine Evans.
“Dw i jyst yn meddwl na all pobol ymdopi.
“Gallwn ni roi’r holl gyngor iddyn nhw sydd i’w gael – mae rhai pobol mewn dyledion ac mae gyda ni fynediad at rai o’r asiantaethau cynghori ar ddyled ac asiantaethau atal dyledion – ond os nad oes gan bobol ddigon o arian yn dod i mewn i dalu’r biliau, allan nhw ddim talu eu biliau.”
Pobol sy’n gweithio’n rhan amser neu bobol sydd wedi colli eu swyddi, yn enwedig pobol ifanc, yw trwch y bobol sy’n manteisio ar fanciau bwyd, meddai.
Wrth drafod prinder rhoddion, dywed ei bod hi’n tybio mai prisiau’n codi sydd wedi arwain at lai o arian ym mhocedi pobol i allu rhoi i fanciau bwyd.
“Dw i wir yn credu yn fy nghalon, yr unfed ganrif ar hugain yw hi, ddylen ni ddim bod yn cael pobol yn dibynnu ar fanc bwyd i fwydo’u teuluoedd,” meddai.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud bod ganddyn nhw gynlluniau eraill ar y gweill i helpu pobol.