Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull ar strydoedd Barcelona i warchod yr iath frodorol yn ysgolion Catalwnia.

Fe wnaethon nhw ymgynnull yn y Passeig de Sant Joan i warchod y drefn o drochi plant yn yr iaith Gatalaneg, gan weiddi “Ara i Sempre” (“Nawr ac am byth”), gan gyfeirio at yr angen i ddefnyddio’r iaith yn y byd addysg ledled y wlad er mwyn ei gwarchod.

Bydd Llywodraeth Catalwnia yn sicrhau bod y drefn o drochi plant yn yr iaith yn cael ei gweithredu drwy gynyddu nifer yr arolygwyr mewn ysgolion.

Daeth cadarnhad gan yr Arlywydd Pere Aragonès nos Iau (Rhagfyr 16) fod ei gabinet eisiau sicrhau bod cynlluniau ieithyddol yn cael eu gweithredu mewn ysgolion.

“Os oedd y cwrs mathemateg i fod i gael ei ddysgu yn y Gatalaneg, mae’n rhaid i ni sicrhau ei fod yn cael ei ddysgu yn y Gatalaneg,” meddai ar ôl cyfarfod â phleidiau a rhanddeiliaid sy’n cefnogi’r system sydd wedi bod yn ei lle ers degawdau.

Fe gyhoeddodd hefyd fod ysgolion yn gorfod darparu 25% o wersi yn y Sbaeneg yn dilyn dyfarniad llys a fydd yn gweld cynnydd yn nifer yr athrawon ar gyfer yr oriau lle mae’n rhaid defnyddio’r Sbaeneg fel bod “y cynllun ieithyddol yn cael ei warchod beth bynnag”.

Ond dydy e na’r Gweinidog Addysg Josep Gonzàlez-Cambray ddim wedi rhoi rhagor o fanylion ynghylch pa dasgau fyddai gan bob athro neu athrawes.

Y mesurau hyn yw ymateb cyntaf Llywodraeth Catalwnia i’r dyfarniad diweddar gan Oruchaf Lys Sbaen i orfodi 25% o addysg yn y Sbaen, camau nad yw Llywodraeth Catalwnia wedi’u gorfodi hyd yn hyn, gan ddadlau bod y dyfarniad yn cyfeirio at gyfraith a ddaeth i ben.

Mae nifer o brotestiadau wedi’u cynnal dros y dyddiau diwethaf o blaid trochi plant yn yr iaith Gatalaneg, gan gynnwys streic a gorymdaith gan fyfyrwyr prifysgol ddydd Iau (Rhagfyr 16).