Mae llety eco-gyfeillgar arloesol dros dro yn helpu pobol ddigartref yn y Barri i godi yn ôl ar eu traed.

Cafodd yr 11 cartref eu hagor gan Gyngor Bro Morgannwg ym mis Awst, ac maen nhw eisoes yn helpu pobol i ddod o hyd i lety parhaol ac addysg.

Cafodd y llety eu codi ar safle hen storfa’r Cyngor, ac fe gymeron nhw chwe mis i’w hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu cyfoes.

Mae gan bob llety lolfa, cegin ac ystafell fwyta, ystafell wely gydag ystafell gawod a thŷ bach.

Mae naw llety ar gyfer pobol sengl a dau ar gyfer cyplau.

Mae’r Cyngor yn asesu pa mor llwyddiannus yw’r cynllun cyn ystyried ei ymestyn i ardaloedd eraill yn y Fro.

Mae’r rhan fwyaf o bobol sengl yn byw mewn llety dros dro am hyd at 18 mis cyn symud i gartref parhaol, yn ôl y Cyngor, tra bod teuluoedd yn dueddol o aros am hyd at dri mis.

Mae dau o bobol sydd wedi bod yn aros yno wedi disgrifio sut mae’r cynllun gwerth £1m wedi eu helpu nhw i gael lle diogel i fyw.

Ryan Davies-Young yn hapusach ei fyd

Symudodd Ryan Davies-Young yno fis Hydref, ar ôl bod yn aros mewn gwesty ger Maes Awyr Caerdydd ers wyth mis.

Mae e’n bwyta’n well erbyn hyn gan fod ganddo ei gegin ei hun, mae e’n byw yn nes o lawer at ei deulu, ac yn dweud bod y llety’n dawelach o lawer na’r gwesty.

“Mae gen i fy lle fy hun, ac mae gen i lai o bryder yn y gofod hwn oherwydd mae gen i lawer o ryddid nawr,” meddai.

“Dw i’n agos iawn i’r dref, ac mae gen i deulu’n byw yn agos.

“Galla i fynd i weld fy nheulu pryd bynnag.

“Yn y gwesty, naill ai y byddai’n rhaid i fi gerdded ar hyd ffordd beryglus neu ddal bws, ac yn aml doedd gen i mo’r arian ar gyfer y bws.

“Galla i goginio drosof fi fy hun a dw i’n cael prydau iachus.

“Yn y gwesty, ro’n i’n bwyta llawer o pot noodles, do’n i ddim yn teimlo’n iach iawn, ac ro’n i’n eithaf digalon.

“Mae’n fwy cyfforddus o lawer yma hefyd. Mae’n lle tawel iawn.

“Dw i ddim yn cael trafferthion gyda’r cymdogion, a dydyn nhw ddim yn aml yn swnllyd, does dim heddlu.”

Mae’n dweud ei fod e’n gobeithio cael gwaith neu waith gwirfoddol cyn bo hir, ac mae e’n dilyn cwrs cyfrifiadureg yn rhan amser yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, gan obeithio symud i lety parhaol yn y flwyddyn newydd.

Adam Tipton yn hyfforddi i fod yn gwnselydd

Symudodd Adam Tipton i’r llety ym mis Awst.

Cyn hynny, roedd e’n rhannu llety yn rhywle arall yn y Barri.

Daeth e’n ddigartref ym mis Mawrth ar ôl i’w fam farw o ganser, ac yntau wedi bod yn gofalu amdani.

Aeth i fyw wedyn mewn gwesty ger Maes Awyr Caerdydd am ychydig fisoedd, lle dechreuodd e gymryd cyffuriau ac yfed alcohol.

Ond ac yntau wedi cael sefydlogrwydd yn ei lety newydd, mae ganddo fe “bwrpas newydd” yn ei fywyd.

“Ro’n i’n cwympo’n ddyfnach i lwybr drwg o ganlyniad i fod yn ddigartref,” meddai.

“Pan fu farw fy mam, ro’n i wedi bod gyda hi drwy’r adeg ac wedyn, do’n i ddim yn gwybod lle’r o’n i’n mynd.

“Roedd gen i bwrpas ond wedyn ro’n i ar goll.

“Ond wedyn ces i fy rhoi yma.

“Nawr dw i’n gwirfoddoli i fod yn gwnselydd, dw i’n helpu pobol gyda chamdriniaeth cyffuriau a chamddefnyddio sylweddau, a dw i’n mentora pobol ifanc.

“Dw i’n ceisio rhoi yn ôl – a’r cyfan oherwydd y lle yma.

“Dw i wedi rhoi trefn arnaf fi fy hun, oherwydd y sefydlogrwydd.

“Mae’n amgylchfyd diogel yma.

“Ond mewn llety sy’n cael ei rannu, rydych chi’n byw gyda phump o bobol eraill nad ydych chi’n eu hadnabod, a drws eich ystafell wely yw eich drws ffrynt.

“Does dim lle am gynnydd na chael unrhyw le gwell.

“Rhywle i gysgu yn unig yw e.

“Yma, mae gyda chi eich lle eich hun, cegin, ystafell ymolchi ac annibyniaeth.

“Pan ydych chi’n teimlo’n sefydlog a diogel, rydych chi’n mynd i geisio gwneud pethau gwell wedyn.”

Ar ôl dechrau’r cwrs cwnsela fis nesaf, mae’n gobeithio mynd i’r brifysgol yn y dyfodol a dechrau ei fusnes cwnsela ei hun.

‘Dim rhyngrwyd’

Un o’r ychydig gwynion sydd gan y ddau yw nad oes rhyngrwyd ar y safle, sy’n golygu bod angen i’r trigolion ddod o hyd i opsiynau drud fel cytundebau ffôn â data di-ben-draw.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn monitro llwyddiant y llety cyn penderfynu a ddylid ei ymestyn i helpu i sicrhau cartrefi i ragor o’r 325 o bobol sydd wedi’u cofrestru’n ddigartref yn yr ardal.