Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno i godi 600 metr o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ninas Bangor wrth i lefel y môr barhau i godi.

Gyda’r amddiffynfeydd yn Hirael “yn gyfyngedig”, lle mae angen trwsio’r unig amddiffynfeydd ffurfiol ar ffurf wal y môr – mae angen ateb mwy hirdymor yn yr ardal.

Mae Bangor yn ardal sydd wedi’i nodi fel un sy’n wynebu’r perygl o lifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, gyda’r peryglon ar dir isel yn cynnwys lefel y môr yn codi, dŵr ar y tir, dŵr ar y wyneb a dŵr afon Adda yn llifo i’r môr.

Dioddefodd yr ardal o ganlyniad i lifogydd difrifol yn 1923 ac eto yn 1973, ond gyda’r disgwyl y bydd newid hinsawdd yn achosi i lefel y môr godi 1.2 metr erbyn diwedd y ganrif, mae Siân Gwenllian, yr Aelod lleol o’r Senedd, eisoes yn rhybuddio y gallai diffyg gwaith yn yr ardal achosi canlyniadau “difrifol” i drigolion lleol.

Cynlluniau

Gyda chynnydd o 12 i 13cm yn lefel y môr rhwng 1991 a 2015, mae gan Gyngor Gwynedd gynlluniau ar gyfer pedair ardal, sef:

  • Maes parcio Ffordd y Traeth: wal goncrid rhwng y cae a llwybr seiclo presennol. Llwybr seiclo graddedig wedi’i alinio drwy ailadeiladu slipffordd i gynnig mynediad i’r traeth drwy osod gatiau llifogydd.
  • Wal y môr ar flaen y promenâd: wal gynnal ar y promenâd o faes parcio rhan ddwyreiniol Ffordd y Traeth i orsaf bwmpio Dŵr Cymru.
  • Yr ardal y tu ôl i orsaf bwmpio Dŵr Cymru: clawdd pridd a chlai gyda llwybr seiclo wedi’i ddargyfeirio.
  • Ffordd Glandŵr: Rhan o ffordd 20m yn Ffordd Glandŵr wedi’i chodi rywfaint (y cynnydd mwyaf yw 0.5m). Adeiladu wal goncrid newydd wedi’i hatgyfnerthu.

Er mwyn cynnig amddiffynfeydd digonol rhag llifogydd, y cynnig yw codi’r wal ryw 1.3m uwchlaw lefel y promenâd.

Hanes llifogydd

Mae llifogydd wedi’u hachosi yn Hirael yn y gorffennol gan law a llanw uchel.

Cafodd afon Adda, sy’n llifo am 4km o dan ganol Bangor, ei ddargyfeirio drwy ffosydd oedd yn rhy gul ac felly, pan oedd llanw uchel ar yr un pryd â’r afon yn llifo’n gyflym, doedd y ffosydd yn methu ymdopi.

Ond tra bod gwaith wedi’i gwblhau ar amddiffynfeydd afon Adda yn 2018, mae’r perygl o lifogydd yn dal yn gysgod tros yr ardal.

Mae dogfennau sydd wedi’u llunio gan Ymgynghoriaeth Gwynedd yn nodi bod “yr amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd yn Hirael yn gyfyngedig a’r unig amddiffynfeydd ffurfiol yn yr ardal yw wal y môr sydd angen graddau gwahanol o waith trwsio, wal gynnal a basgedi caergewyll ar hyd yr arfordir, i’r gogledd-ddwyrain o Ffordd y Traeth”.

“Ar hyn o bryd, does yna’r un strwythur arall sy’n rheoli tonnau’n gorlifo a llethu,” meddai.

“Mae amddiffynfeydd dros dro rhag llifogydd megis sachau tywod wedi’u gosod yn y gorffennol ar hyd wal y traeth a dwy slipffordd i ymdrin â llanw uchel a thonnau’n codi ond dydyn nhw ddim yn ffynhonnell gynaliadwy o warchod rhag llifogydd yn y tymor hir.”

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais yn y misoedd i ddod.