Mae disgwyl i gynigion newydd sy’n ystyried dyfodol tair ysgol gynradd wledig yng ngogledd Powys gael eu cyflwyno erbyn mis Mawrth.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddi argymhellion newydd gan swyddogion addysg ar gyfer eu hadroddiad ar dalgylch Llanfyllin.
Yn ystod cyfarfod cabinet Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth (Rhagfyr 14), daeth i’r amlwg fod adroddiad yn argymell atal y broses o gau ysgolion cynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Llanfechain, Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin.
Roedd hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflwyno cynigion amgen “heb oedi”, meddai’r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn dweud nad oedd modd “bwrw ymlaen” â chynnig i ychwanegu dosbarthiadau yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Llansantffraid oherwydd canlyniad astudiaeth dichonadwyedd gan wasanaethau llety Calon Cymru.
Byddai ychwanegu dosbarthiadau wedi galluogi Llansantffraid i fynd â’r disgyblion ychwanegol o Lanfechain a Llangedwyn, ond cafodd yr adroddiad ei dynnu’n ôl ar fyr rybudd a chafodd e mo’i drafod yn ystod y cyfarfod.
‘Rhagor o drafod’
Yn ôl Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys, mae angen rhagor o “drafod” ynghylch y cynigion.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno o’r newydd i’r cabinet ddydd Mawrth (Rhagfyr 21), gyda thrydedd rhan i’r argymhellion, sef cynigion newydd ar gyfer y tair ysgol dan sylw.
Yn ôl Chris Richards, cadeirydd llywodraethwyr ysgolion Llangedwyn a Llanfechain, roedd tynnu’r adroddiad yn ôl ar fyr rybudd “yn gwbl annerbyniol”.
“Cawsom ni rybudd rhagblaen am yr adroddiad,” meddai.
“Fe wnaethon ni ysgrifennu at ein staff a’n rhieni yn dweud wrthyn nhw y byddai’n mynd at y cabinet a beth oedd yr argymhellion.”
Mae’n dweud nad oedd e’n gwybod fod yr adroddiad wedi cael ei dynnu’n ôl cyn iddo edrych ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Dw i wedi gofyn i’r awdurdod am eglurhad brys,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys fod gan y cabinet “sawl achos i boeni am yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno ynghynt”, a bod “gwelliannau wedi’u gwneud i’r argymhellion”.