Bydd digwyddiad coffa yn cael ei gynnal yng Nghernyw yfory (dydd Sul, Rhagfyr 19), 40 mlynedd ers un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes y bad achub.
Aeth y criw o wyth allan ar fad achub Penn Legh ar Ragfyr 19, 1981 yng nghanol un o’r stormydd gwaethaf ers cyn cof, a hynny er mwyn achub llong oedd wedi mynd i drafferthion.
Mae llyfr coffa wedi’i agor ar gyfer yr achlysur.
Beth ddigwyddodd?
Bu farw pob aelod o griw’r bad achub wrth iddyn nhw geisio achub y llong Union Star, oedd wedi teithio o Ddulyn cyn i’w hinjan fethu.
Ar y noson, roedd y tywydd mor wael nes bod criw hofrennydd wedi methu codi unrhyw un oddi ar y llong.
Llwyddodd pedwar o’r criw i gyrraedd y bad achub, ond collodd y bad achub gysylltiad radio â phedwar arall.
Ddeng munud yn ddiweddarach, cafodd yr holl oleuadau eu diffodd, a bu farw criw’r bad achub i gyd.
Wnaeth neb oroesi yn y pen draw.
Cydnabod cefnogaeth a thrugaredd
“Tra nad yw’r pen-blwydd yn 40 yn wahanol o gwbl i deuluoedd cymuned y bad achub a gollodd anwyliaid ar y noson honno, roedden ni eisiau cydnabod cefnogaeth a thrugaredd pobol o bob cwr o’r byd tuag at gymuned bad achub Penn Legh a theuluoedd y rhai a gafodd eu colli,” meddai Patch Harvey, arweinydd bad achub presennol Penn Legh.
“Mae’r llyfr coffa ar-lein yn rhoi’r cyfle i bawb rannu eu hatgofion a negeseuon o gariad a chefnogaeth.”
Bydd y llyfr ar agor tan fis nesaf, pan fydd yn cael ei argraffu a’i arddangos yng nghanolfan ymwelwyr y bad achub.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gydnabod a chofio aberth criw’r Solomon Browne, wnaeth roi popeth i helpu pobol mewn angen,” meddai wedyn am griw’r bad achub.
“Wnaethon nhw ddim rhoi’r gorau iddi, a dylid cynnal atgofion ohonyn nhw am genedlaethau i ddod.”