Mae helynt y partïon yn Downing Street yn “ffars”, yn ôl Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda a chadeirydd Pwyllgor Safonau San Stefan.

Dywed nad oes yna unrhyw un yn gwybod beth sy’n digwydd yn Downing Street.

“Mae hi’n teimlo rywfaint fel pe bai Downing Street yn gwbl gamweithredol,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Does neb fel pe baen nhw’n gwybod beth sy’n digwydd.”

Ond mae’n dweud bod Sue Gray, sydd wedi’i phenodi i arwain yr ymchwiliad i bartïon yn Downing Street a’r Adran Addysg yn ystod cyfyngiadau Covid-19 y llynedd, wedi creu argraff arno fe.

Fel Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, mae e’n galw arni i roi unrhyw dystiolaeth o dorri’r rheolau i’r heddlu.

“Os caiff y rheolau eu torri, pe baen nhw wedi cael eu torri mewn unrhyw swydd arall, byddai’r heddlu’n cynnal ymchwiliad, a dw i ddim yn gwybod pam nad yw’r heddlu’n ymchwilio i’r sefyllfa hon,” meddai.

“Yn y pen draw, rhaid bod y dadansoddiad terfynol yn cael ei wneud gan berson cwbl annibynnol.

“Dw i ddim yn credu mai’r heddlu ddylai wneud.”

 

Gwas sifil am arwain ymchwiliad i bartïon yn Whitehall yn ystod cyfyngiadau Covid-19

Sue Gray fydd yn arwain yr ymchwiliad ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Simon Case, arweinydd gwreiddiol yr ymchwiliad, wedi bod yn un o’r partïon