Y gwas sifil Sue Gray fydd yn arwain yr ymchwiliad i’r partïon a gafodd eu cynnal yn Whitehall yn ystod cyfyngiadau Covid-19.
Bu’n rhaid i Simon Case, arweinydd gwreiddiol yr ymchwiliad, gamu o’r neilltu ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi cymryd rhan yn un o’r partïon, sef cwis yn ei adran ei hun.
Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar dri pharti yn Downing Street a’r Adran Addysg fis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd, pan nad oedd hawl gan bobol i gymysgu dan do.
Yn ôl Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, mae’n rhaid i’r ymchwiliad a’i arweinydd adfer ffydd y cyhoedd.
“Ar hyn o bryd, mae pobol yn dweud ‘pa adran na chafodd barti?'” meddai.
“Mae’n destun siom eithriadol oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod beth oedd yn digwydd pan oedd y partïon hyn yn mynd rhagddynt, doedd pobol ddim yn gallu gweld eu hanwyliaid oedd yn marw, ac roedden nhw’n gwneud aberth anhygoel.
“Felly dw i’n meddwl bod rhaid i’r ymchwiliad fynd at wraidd y peth, ond dw i’n credu bod y dystiolaeth eisoes yn dangos bod Boris Johnson wedi gosod y tôn ar gyfer y llywodraeth hon ac wedi gadael i hyn ddigwydd o dan ei oruchwyliaeth e.”
Mae hi’n galw ar Sue Gray i roi unrhyw dystiolaeth o dorri’r rheolau i’r heddlu.
Pwy yw Sue Gray?
Sue Gray yw’r ail ysgrifennydd parhaol yn yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau.
Cyn hynny, bu’n gyfarwyddwr cyffredinol moesau’r Swyddfa Gabinet rhwng 2012 a 2018.
Hi oedd wedi arwain yr ymchwiliad i ‘Plebgate’, pan gafodd y Prif Chwip Andrew Mitchell ei gyhuddo o alw plismon yn ‘pleb’ ger gatiau Downing Street.
Cafodd ei disgrifio fel “Dirprwy Dduw” gan Paul Flynn, oedd yn Aelod Seneddol yng Nghasnewydd ar y pryd.
Mae lle i gredu bod Oliver Letwin, yr Aelod Seneddol Ceidwadol, wedi honni rywdro mai Sue Gray sy’n rhedeg y Deyrnas Unedig, gan ddweud “oni bai ei bod hi’n cytuno, dydy pethau ddim yn digwydd”.
Mae hi hefyd ar y panel sy’n penderfynu pwy fydd cadeirydd nesaf Ofcom.
Gwrthwynebiad
Ond nid pawb sy’n fodlon â’r penodiad.
Yn ôl Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, mae angen “rhywun o awdurdod o’r tu allan i’r Llywodraeth ac o’r tu allan i’r Gwasanaeth Sifil”.
Mae’n galw am farnwr i arwain yr ymchwiliad.