Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw ymchwilio i farwolaeth merch 18 oed ym Mhenfro.

Daethon nhw o hyd i’r corff fore ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 17), ac mae lle i gredu mai corff Lily Sullivan yw e.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un welodd Lily o 7.30 nos Iau (Rhagfyr 16) ac yn ardal Mill Pond am oddeutu 2 o’r gloch fore ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 17).

Roedd hi’n gwisgo top byr, jîns glas â thyllau ynddyn nhw, gwregys gwyn ac esgidiau du, ac roedd ganddi datŵ o bry copyn ar ei brest.

Roedd ganddi wallt du wedi’i liwio yn y blaen.

Mae’r heddlu’n cefnogi ei theulu, ac mae dyn 31 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu.