Ddwy flynedd wedi iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol Môn, a hynny wedi iddi gael ei dewis fel yr ymgeisydd Ceidwadol ar y funud olaf, mae Virginia Crosbie yn dathlu buddugoliaeth arall i’w phlaid ar yr ynys.

Yr wythnos hon fe gafodd y Tori Keith Fitton ei ethol i Gyngor Cymuned Llanbadrig yn dilyn is-etholiad yng Nghemaes.

Ac mae’r Aelod Seneddol lleol eisiau defnyddio’r fuddugoliaeth fel sbringfwrdd i lwyddiannau tebyg yn yr etholiadau i ddewis aelodau Cyngor Môn y flwyddyn nesaf.

“Mae ethol Keith yn newyddion gwych i Geidwadwyr lleol ac rydw i’n mawr obeithio gweld mwy o lwyddiannau tebyg yn etholiadau’r cyngor sir ym mis Mai,” meddai Virginia Crosbie.

“Mae fy muddugoliaeth i ar yr ynys yn yr etholiad cyffredinol, buddugoliaeth Keith ynghyd â’r ffaith i ni gynyddu ein pleidlais yn etholiad Senedd Cymru yn gynharach eleni, oll yn tanlinellu’r neges fod pobol Ynys Môn yn chwilio am newid. Maen nhw yn edrych arnom ni Geidwadwyr i sicrhau’r newid hwnnw, ac ni fyddwn yn eu siomi.”

Ac mae Dirprwy Gadeirydd Ceidwadwyr Ynys Môn yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr etholiadau fis Mai nesa’ hefyd.

“Llongyfarchiadau i Keith ar ei lwyddiant,” meddai Bethan Davies.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o ymgeiswyr Ceidwadol ar y papurau pleidleisio ar hyd a lled yr ynys yn etholiadau mis Mai nesaf, gan roi’r cyfle i bobol leol bleidleisio tros y newid positif sydd ei angen yma.”