Mae DJ sydd wedi gweithio yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd yn dweud y bydd cau clybiau nos yn ei adael heb arian sy’n “rhoi bwyd ar y bwrdd a tho uwch fy mhen”.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfyngiadau newydd a fydd yn dod i rym nos Lun nesaf, 27 Rhagfyr.

Bydd hynny’n cynnwys cau clybiau nos, yn ogystal â mesurau diogelwch ychwanegol mewn swyddfeydd a busnesau.

DJs allan o boced

Mae Hywel Ricketts, sy’n 47 oed, yn gweithio fel DJ ym mariau Barocco a Bootlegger yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud y bydd yn rhaid iddo wneud “penderfyniadau ariannol anodd” o gwmpas y Nadolig.

Dywedodd hefyd y bydd y mesurau “yn anoddach i DJs iau sydd ond newydd ddechrau.”

“Ar un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn, bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar fy llif arian,” meddai.

Ychwanegodd bod cau clybiau nos “yn ddim byd mwy na Llywodraeth Cymru yn trio bod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol.”

‘Penderfyniad niweidiol’

Dywed Peter Marks – cadeirydd bwrdd Rekom UK, sy’n berchen ar glwb nos PRYZM yng Nghaerdydd – bod y mesurau newydd “ddim yn seiliedig ar unrhyw fath o ffaith.”

“Mae’r penderfyniad niweidiol hwn yn targedu’r bobol sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan Covid-19 o ran lles,” meddai.

“Mae’r rhain yn benderfyniadau sydd wedi dinistrio eu haddysg a’u bywydau cymdeithasol.

“Dydy clybiau nos ddim yn ‘archledaenwyr’ fel maen nhw’n cael eu disgrifio gan rai… Y gwir amdani yw, mae cyfraddau heintio ymysg pobol ifanc 18-25, sef demograffig ein cwsmeriaid creiddiol, wedi disgyn yn sylweddol ers i glybiau nos ailagor.

“Unwaith eto, clybiau nos yw’r rhai sy’n cael eu taro waethaf, ond sy’n cael eu cefnogi leiaf. Mae’n rhaid i hyn stopio.”

“Gweithredu o blaid pobol ifanc”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £60miliwn i gefnogi busnesau sydd am gael eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.

Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mai eu bwriad wrth gau clybiau nos yw amddiffyn pobol ifanc rhag dal Covid-19.

“Os edrychwch chi ar Lundain, ac ar le mae’r twf mwyaf wedi bod yn yr amrywiolyn Omicron, mae ymysg pobol yn eu hugeiniau a’u tridegau,” meddai.

“Er fy mod i wastad yn ceisio meddwl yn ofalus am yr effaith mae penderfyniadau yn eu cael ar wahanol rannau o’r boblogaeth, yn yr achos hwn, dw i’n credu bod modd dweud ein bod ni’n gweithredu o blaid pobol ifanc drwy gyflwyno mesurau yn lle maen nhw fwyaf tebygol o fynd.”