Yn ei gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener (17 Rhagfyr), bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn amlinellu cynllun dau gam i ymateb i’r amrywiolyn Delta – sef yr amrywiolyn mwyaf cyffredin ar hyn o bryd – a’r amrywiolyn newydd, Omicron.

Mae Omicron yn trosglwyddo’n gyflym, a disgwylir iddo fod yn brif ffurf y feirws ym Mhrydain erbyn diwedd y mis.

I ddechrau, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobol ledled Cymru drwy gyfnod y Nadolig.

Bydd rheoliadau hefyd yn cael eu newid i gynnwys gofyniad i weithio gartref lle bynnag y bo modd.

27 Rhagfyr – clybiau nos yn cau

Yna – o 27 Rhagfyr ymlaen – bydd Cymru’n cyflwyno cyfyngiadau cyfreithiol newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau.

Bydd hyn yn cynnwys rheol 2m ar ymbellhau cymdeithasol mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff, megis systemau unffordd a rhwystrau. Bydd clybiau nos hefyd yn cau.

Bydd hyd at £60m ar gael i gefnogi busnesau y mae’r cyfyngiadau newydd yn effeithio arnynt.

Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad omicron, medd Llywodraeth Cymru mewn datganiad.

“Mae angen cynllun i’n cadw ni’n ddiogel”

Cyn y gynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Delta fydd prif achos heintiau coronafeirws yng Nghymru hyd at y Nadolig. Ond rydym yn gweld achosion o Omicron yn cynyddu’n gyflym bob dydd yng Nghymru – ac ar draws y Deyrnas Unedig.

“Mae angen cynllun i’n cadw ni’n ddiogel y Nadolig hwn ac mae angen mesurau cryfach i’n hamddiffyn wedyn, wrth i ni baratoi ar gyfer ton fawr o heintiau Omicron.

“Mae Omicron yn fygythiad newydd i’n hiechyd a’n diogelwch. Dyma’r datblygiad mwyaf difrifol yn y pandemig hyd yma.

“Mae’n un y mae’n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif. Byddwn yn parhau i roi mesurau cymesur ar waith i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl.

“Dyma feirws sy’n ffynnu ar gyswllt dynol. Mae pob cyswllt sydd gennym yn gyfle i ni ledaenu neu ddal y feirws.”

Canllawiau

Wrth i’r Nadolig agosáu, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum cam hyn i gadw’n ddiogel:

Cael eich brechu – a blaenoriaethu’ch apwyntiad atgyfnerthu.

Os ydych chi’n mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu’n ymweld â phobl – cymerwch brawf llif ochrol cyn mynd. Os yw’n bositif – peidiwch â mynd allan.

Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn well na dan do. Os ydych chi’n cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i awyru’n dda.

Gwasgarwch eich cymdeithasu – os oes gennych ddigwyddiadau wedi’u trefnu, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.

A pheidiwch ag anghofio am ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb, a golchi’ch dwylo.

“Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel”

Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Eleni mae Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel.

“Y nifer lleiaf o bobol a welwn, y lleiaf y siawns sydd gennym o ddal neu drosglwyddo’r feirws.

“Mwynhewch y Nadolig gyda’ch annwyliaid – a meddyliwch am gyfarfod â chylchoedd ehangach o ffrindiau pan fydd y bygythiad a achosir gan yr amrywiolyn omicron wedi pasio.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r miloedd lawer o bobl a fydd yn gweithio’r Nadolig hwn i’n cadw’n ddiogel – yn enwedig pawb sydd wedi canslo eu cynlluniau i weithio yn y canolfannau brechu ledled Cymru i gynyddu ein diogelwch rhag y feirws ofnadwy hwn.”