Mae Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud y bydd Omicron yn taro Cymru “yn gyflym iawn ac yn galed iawn” erbyn mis Ionawr.
Dywedodd y gallai pob math o wasanaethau – o’r Gwasanaeth Iechyd i gasgliadau biniau – gael eu heffeithio os yw llawer o weithwyr i ffwrdd o’u gwaith yn sâl.
Mewn cyfarfod o bwyllgor Senedd Cymru rhybuddiodd y gallai’r don nesaf weld “hanner poblogaeth y Deyrnas Unedig yn mynd yn sâl gyda’r coronafeirws”.
“A bydd hynny’n cael ei gywasgu i nifer llai o wythnosau nag oedd yn wir naill ai gydag [amrywolion] Alpha neu Delta,” ychwanegodd.
Mae nifer yr achosion o’r amrywiolyn Omicron sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru wedi codi 33 heddiw i gyfanswm o 95.
Bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarfod eto yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau 16 Rhagfyr) i gwblhau’r cynlluniau, wrth iddynt geisio arafu lledaeniad yr amrywiolyn newydd.
Byddant yn ystyried a ddylid gosod cyfyngiadau cyfreithiol neu ganolbwyntio ar gyngor i gyfyngu ar gyswllt cymdeithasol, neu gyfuniad o’r ddau.
Yn ystod sesiwn y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog roedd Mark Drakeford yn ymateb i Gwestiynau’r ynghylch Cynllun Gaeaf Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 21 Hydref eleni.
“Cafodd hynny ei lunio yng nghyd-destun amrywiolyn Delta ac mae gofyn inni addasu’r cynlluniau yn sgil yr amrywiolyn newydd,” meddai Mark Drakeford.
“Mae hynny’n golygu newidiadau i wasanaethau cyhoeddus, y Gwasanaeth Iechyd yn benodol, ac mae yna ymgyrch ar waith ar hyn o bryd i gynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd y flwyddyn tra bod y Gwasanaeth Iechyd ar yr un pryd yn delio gyda phwysau arferol y gaeaf.”
Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn rhoi £135m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno’r brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru
Diogelu busnesau
Wrth ymateb i gwestiynau am ddiogelu busnesau pe bai cyfyngiadau llymach yn dod i rym fe ddywedodd y Prif Weinidog mai’r Trysorlys yn San Steffan sydd â’r “pŵer” i gamu i mewn a diogelu busnesau rhag effeithiau Omicron – ond nad ydynt wedi dangos “unrhyw arwydd” o wneud hynny.
Fe ddywedodd Mark Drakeford fod gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig yn ogystal â gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dadlau o blaid cymorth ariannol yn ystod cyfarfod Cobra ddoe.
“Roedd y Trysorlys yno ond doedden nhw ddim yn dangos unrhyw arwydd o gynnig yr help oedd ei angen i’r rhai gaiff eu heffeithio,” meddai Mark Draekford.
“Gwnaed achosion pwerus, nid yn unig gan weinidogion datganoledig ychwaith, ond gweinidogion eraill hefyd, am yr angen am gymorth ariannol ar draws ystod eang o wahanol agweddau ar y llywodraeth.
“Dywedaf eto’r prynhawn yma fel y gwnaf bryd bynnag y daw’r cwestiwn hwn i fyny, fod cymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu drwy gydol y pandemig, drwy’r cynllun ffyrlo ac eraill a oedd yn gweithredu ar lefel y Deyrnas Unedig, yn bwysig iawn yma yng Nghymru ac yn gwneud llawer iawn i gynnal y swyddi hynny a’r busnesau hynny.”
Heddiw (Rhagfyr 16) mae Nicola Strugeon, Prif Weinidog yr Alban wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn gofyn am fwy o gymorth i fusnesau ac am ailgyflwyno’r cynllun ffyrlo.
Fe ychwanegodd fod angen “gweithredu cyflym a phendant” gan fod llawer o fusnesau ym maes lletygarwch yn dweud eu bod wedi derbyn nifer o bobl yn canslo partïon Nadolig yn y dyddiau diwethaf.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r “£500 miliwn o gymorth Covid sydd heb ei neilltuo ac sy’n eistedd yng nghoffrau’r llywodraeth i helpu cwmnïau a diogelu swyddi.”
Pryder
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi annog pobl i leihau eu cysylltiadau cymdeithasol.
“Mae angen i ni flaenoriaethu’r hyn rydyn ni eisiau ei wneud adeg y Nadolig, i mi mae’n ymwneud â gweld teulu,” meddai Dr Frank Atherton.
“Nid yw’n ymwneud â mynd i’r dafarn, nid yw’n ymwneud â mynd i glwb nos, nid yw’n ymwneud â mynd i unrhyw le sy’n orlawn neu dan do.”
Fe nododd hefyd ei bryder am ledaeniad yr amrywiolyn – dywedodd nad oedd erioed wedi gweld y math yma o heintio yn y gymuned – a soniodd am bwysigrwydd y brechlyn atgyfnerthu sydd, meddai, yn ymddangos yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn.
Y gyfradd heintio yn y saith diwrnod diwethaf yw 500.7 fesul 100,000 o bobl.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 2,889 o achosion o’r coronafeirws ddydd Iau, a dim marwolaethau. Cyfanswm nifer y marwolaethau sydd wedi’u hadrodd yw 6,501.
Mae’r Deyrnas Unedig yn profi’r nifer uchaf o heintiau dyddiol ers dechrau’r pandemig, gyda chynnydd sylweddol yn ddisgwyliedig yng Nghymru dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
Yn ei gynhadledd yfory (Rhagfyr 17) fe fydd Mark Drakeford yn amlinellu unrhyw newidiadau i gyfyngiadau Covid yng Nghymru.
Cyfraddau diweddaraf
Ynys Môn sydd â’r gyfradd Covid-19 uchaf yng Nghymru yn dal i fod, gyda 682.9 achos i bob 100,000 person dros y 7 niwrnod hyd at 12 Rhagfyr.
Y rhestr lawn
Mae’n darllen, o’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 12; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 12; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 5; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 5.
Ynys Môn, 682.9, (481), 836.2, (589)
Wrecsam, 597.6, (813), 617.4, (840)
Gwynedd, 582.4, (729), 785.3, (983)
Sir y Fflint, 580.8, (911), 540.7, (848)
Pen-y-bont ar Ogwr, 578.8, (854), 616.1, (909)
Sir Ddinbych, 571.1, (552), 525.5, (508)
Casnewydd, 549.1, (859), 473.6, (741)
Bro Morgannwg, 537.3, (727), 589.1, (797)
Torfaen, 520.9, (494), 481.9, (457)
Abertawe, 502.5, (1239), 459.5, (1133)
Sir Fynwy, 486.5, (463), 484.4, (461)
Caerffili, 479.3, (871), 469.9, (854)
Caerdydd, 473.2, (1747), 469.9, (1735)
Sir Benfro, 452.1, (573), 582.2, (738)
Merthyr Tudful, 446.8, (270), 407.1, (246)
Castell-nedd Port Talbot, 444.6, (642), 415.6, (600)
Powys, 439.8, (585), 458.5, (610)
Conwy, 435.8, (515), 413.8, (489)
Rhondda Cynon Taf, 426.3, (1031), 391.1, (946)
Blaenau Gwent, 421.3, (295), 524.1, (367)
Sir Gaerfyrddin, 402.0, (764), 412.5, (784)
Ceredigion, 373.1, (272), 292.2, (213)
Rhoi deuddydd i ysgolion Cymru gynllunio wedi’r Nadolig
Cabinet Llywodraeth Cymru’n cwrdd i drafod cyfyngiadau posib ar gyfer y Nadolig
Pob oedolyn cymwys i gael cynnig trydydd brechlyn erbyn diwedd y mis
Cymru’n derbyn £135 miliwn o gyllid ychwanegol gan San Steffan i ymateb i’r pandemig